THE latest community news from Tregaron

Whilen y Porthmyn

THE annual general meeting will be held at 7.30pm on Thursday, 12 April, in the Memorial Hall.

All are welcome, and members of the community are urged to attend.

The first and principal item on the agenda will be the future of Whilen y Porthmyn, and the outcome of the discussion will dictate the subsequent proceedings.

Merched y Wawr

CYNHALIWYD noson ddathlu Gwyl Ddewi y gangen ar nos Fercher, 7 Mawrth.

Croesawyd pawb i’r Neuadd Goffa gan y llywydd, Mared Rand Jones, a braf oedd cael cwmni y dysgwyr ac aelodau o ganghennau Bro Dderi a Llanafan.

Offrymwyd gras gan Mared a mwynhawyd pryd blasus o gawl, tarten afal a chage bach a baratowyd gan y pwyllgor.

Ar ôl gwneud cyfiawnder gyda’r wledd, cyflwynwyd Donald Morgan y gwr gwadd a chafwyd noson ddifyr iawn yn ei gwmni.

Paratodd bedwar trefniant o flodau mewn byr amser a’u gosod gyda’r arddangosfa a baratowyd gan Nerys Williams ar y llwyfan.

Mae Donald wedi bod yn llwyddiannus iawn ym myd y blodau, a’r pinacl iddo oedd bod yn rhan o greu’r brif arddangosfa yng Ngwyl Flodau Chelsea yn 2016 ag ennill y Fedal Aur.

Diolchwyd i’r aelodau fu’n brysur yn paratoi’r cawl blasus, y darten afal a chage bach gan Delyth Rees.

Aeth ymlaen i ddiolch i Nerys Williams am addurno’r llwyfan mor gelfydd ac i’r pwyllgor am harddu’r byrddau gyda blodau’r gwanwyn.

Diolchwyd i Donald am noson ddifyr ac yn llawn hiwmor, ac am ei garedigrwydd i roi’r blodau yn wobrau raffl. Llongyfarchwyd Aerona Rees a enillodd yr arddangosfa yn defnyddio pedair Cenhinen Bedr, ac Averinah Davies am ennill yr ail wobr.

Diolchwyd yn ogystal i aelodau’r canghennau gwadd a’r dysgwyr am dderbyn y gwahoddiad.

Roedd wedi bod yn noson arbennig i ddathlu Gwyl ein Nawddsant ac i gofio geiriau Dewi Sant ‘gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf fi’.

Enillwyd gwobrau’r raffl gan Heddwen Evans, Joan Jones, Diana Jones a Sian Evans.

Talwyd y diolchiadau ar ran cangen Bro Dderi gan Gwyneth Jones a Wendy Crockett ar ran cangen Llanafan.

Nos Fercher, 4 Ebrill, am 7.30yh cynhelir noson yng nghwmni Parti Tropic.

Clwb Cerdded

THE next walk, entitled The Pig Trail – Pumlumon Fawr from Nant y Moch, is scheduled for 14 April and has been organised by Dafydd (07748 675798).

A community was drowned in order to create a water resource to serve the Aberystwyth catchment area.

The group will follow the road from the dam and aim for the Bryn Beddau quarry. From here they turn up and head for Pumlumon Fach.

The path is then steep but worth the effort – it’s definitely an up and down route.

The meeting point is outside Y Talbot at 9.30am.

The walk will last between four and five hours and is graded a moderate walk, covering six-and-a-half miles with an ascent of 1,732ft/530m.

If you would like to become a member of Clwb Cerdded Tregaron Walking Club then please feel free to give Dafydd, the secretary, a call on 01974 298150.

Kite centre and museum

THE launch of the Tregaron Kite Centre and Museum’s 2018 season will be on Monday, 2 April.

The Centre will be open from 10.30am to 4.30pm.

There will be an exhibition of railway memorabilia and a warm welcome is extended to all.

Capel Bwlchgwynt

CYNHELIR Oedfa ddydd Sul, 8 Ebrill, am 10yb dan ofal Huw Roderick.

Oedfa Deuluol

CYNHALIWYD Oedfa Deuluol a gwasanaeth cymundeb ar ddydd Sul, 25 Mawrth, dan ofal y Parch Carwyn Arthur, a braf oedd gweld y festri’n llawn ar ddiwrnod braf o wanwyn.

Rhoddwyd yr emynau allan gan Mair Jones, Gwenno Dark, Osian Jenkins a Glyn Lewis.

Darllenwyd rhannau o’r ysgrythur gan Hana James, Esyllt Evans, Ffion Medi Lewis Hughes a Gwion James.

Cyflwynwyd neges y Pasg i’r plant gan y gweinidog ac roeddynt wrth eu bodd yn ei wylio yn gwneud un o’i driciau gyda’r balwn!

Cafwyd eitem gan blant yr Ysgol Sul yn canu emyn o’r Detholiad i gyfeiliant Catherine Hughes a bu’r clwb plant a’r ieuenctid yn perfformio dawns dan ofal Nerys Bennett.

Casglwyd gan Malen Jenkins ac Elis Hockenhull a chyfeiliwyd gan Nerys Bennett.

Cyhoeddwyd a diolchwyd i bawb a gyfrannodd tuag at lwyddiant y gwasanaeth gan Gareth Jones.

Diolchodd y gweinidog i Sian Evans am ei rhodd garedig o waith llaw arbennig i’w osod ar wal y festri.

Rhannwyd bagiau bach gyda wyau Pasg ag adnod i bawb ar ddiwedd yr oedfa.

English Methodist Church

THE service on Sunday, 8 April, will be held in the Memorial Hall at 2.30pm and led by Rev David Whitehouse.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]