THE latest community news from Uwchmynydd

Eisteddfod Uwchmynydd

Cafwyd cystadlu brwd am yn agos i 10 awr yn neuadd Crud y Werin, Aberdaron, ar ddydd Llun y Pasg.

Arweinwyd y gweithgareddau llwyfan yn hwylus gan Awen Griffiths ac Alaw Tecwyn.

Y beirniad cerdd oedd Eirianwen Williams a’r beirniad llefaru oedd Llinos Mary Jones.

Y beirniad llenyddiaeth oedd Esyllt Maelor a’r beirniad arlunio oedd Hafwen Dorkins, pob un yn hynod o ddifyr efo’r sylwadau.

Y cyfeilydd medrus a weithiodd mor galed oedd Olwen Jones.

Talwyd y diolchiadau gan Elizabeth Owen, Gwyddel gan fynegi gwerthfawrogiad o gyfraniad pawb i lwyddiant yr eisteddfod a chyfeirwyd at haelioni y llywydd Gwynfor Hughes ac am bob rhodd a gafwyd, gan ddiolch am waith paratoi y pwyllgor.

Dyma’r buddugwyr:

Cerdd:

Dan 6 oed – Lisi Parry Jones, Bryncroes; dan 8 oed – Llio Medi Jones, Sarn; dan 10 oed – Beca Dwyryd Huws, Porthmadog; dan 12 oed – Anni Grug Evans, Llanllyfni; dan 18 oed – Llyr Eirug, Aberystwyth; dan 25 oed – Rhys Meilir, Llangefni; Cerdd Dant dan 12 oed – Beca Dwyryd Huws; Cân Werin dan 12 oed – Macsen Parry, Y Bala; Deuawd – Fflur a Tami, Pwllheli; Cerdd Dant dan 18 oed – Llyr Eirug; Unrhyw offeryn dan 12 oed – Lea Mererid, Pwllheli; Parti Canu dan 18 oed – Parti Daron, Adran yr Urdd Aberdaron/Rhiw; Cân Werin dan 18 oed – Tami Perry; Emyn dan 50 oed – Robin Hughes, Botwnnog; Emyn dros 50 oed – Hywel Anwyl, Llanbrynmair; Cerdd Dant dau neu fwy – Tami a Fflur, Ysgol Glan y Môr; Côr – Alawon Llyn, arweinydd Alaw Tecwyn, cyfeilydd Nia Thomas; Tlws Cerdd – Llyr Eirug, Aberystwyth; Unrhyw offeryn Agored – Lea Roberts, Pwllheli; Sgen Ti Dalent – Osian Glyn, Aberdaron; Ensemble Lleisiol – Erain, Eiri, Ania a Cerin Enlli; Wythawd – Criw Robert John, Criw Huw Meillionydd; Sioe Gerdd – Rhys Meilir; Cân Werin Agored – Rebecca Thomas, Bryncroes; Unawd Penillion – Catrin Mair Parry, Pwllheli; Unawd Gymraeg – Rhys Meilir; Parti Merched/Meibion – Parti Alawon Llyn; Prif Unawd – Catrin Mair Parry.

Llefaru:

Dan 6 oed – Lisi Parry Jones; dan 8 oed – Guto Huw Jones, Dinas; dan 10 oed – Ifan Midwood, Morfa Nefyn; dan 12 oed – Elan Roberts Owen, Aberdaron; dan 18 oed – Owain Rhys, Llanarmon; dan 25 oed – Owain Rhys; Parti Llefaru dan 18 oed – Parti Daron; Parti Llefaru Agored – Lleisiau Cafflogion; Darllen darn ar y pryd – Llyr Titus; Prif Lefaru – Owain Rhys.

Llenyddiaeth:

Medalau y Plant, Cerdd – Macsen Parry, Y Bala; Stori – Gwenith Jones, Sarn. 105 wedi ymgeisio.

Tlws yr Ifanc – Anest Non Eirug, Aberystwyth. Roedd y safon yn arbennig o uchel, a diolch i’r ysgolion ac i’r colegau am roi anogaeth. Ffion Bryn Jones, Penrhos, oedd yn ail, ac yn drydydd Cain Hughes, Ysgol Botwnnog.

Ysgrif – Trefor Huw Jones, Aberystwyth; Cân Ddigri – Megan Richards, Aberaeron; Telyneg – John Meurig Edwards, Aberhonddu; Limrig a Llinell Goll – Megan Richards; Emyn – Mary B Morgan, Llanrhystud; Parodi – Delyth Lewis, Aberystwyth; Englyn – John Ffrancon Griffith, Abergele.

Arlunio:

Dan 6 oed – Lisi Parry Jones, Bethan Garton, Ysgol Edern, Dafi Bob, Ysgol Edern; Dan 9 oed – Erin Ebrill, Ysgol Edern, Mali Elen, Ysgol Edern, Mali Fflur, Ysgol Tudweiliog; Dan 12 oed – Morgan Hughes, Ysgol Tudweiliog, Osian Glyn, Aberdaron, Alaw Marged, Ysgol Llanrug, Lili Pritchard, Ysgol Llanrug, Ela Fôn, Rhiw; Agored – Tami Perry, Pwllheli, Elain Owen, Uwchmynydd.

Ffotograffiaeth:

Oed cynradd – Ifan Alun, Morfa Nefyn, Lois Haf, Sarn, Lea Mererid, Pwllheli; Agored – Gaenor Mai Jones, Netta Pritchard, Mynytho.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]