Cynhaliwyd yr Eisteddfod ar 12 a’r 13 Fedi yn Neuadd Goffa Tregaron. Beirniaid y cystadlaethau lleol oedd Lindsay Cameron a Cadi-Beaufort Jones.

Diolch i Sefydliad y Merched Tregaron am noddi’r gwobrau lleol ac i Cyril Evans, John Jones, Catherine Hughes, Lynda Thomas a theulu’r diweddar Mair Lloyd Davies am y gwobrau her. Enillwyd y cystadlaethau fel a ganlyn.

Unawd a Llefaru Meithrin - Moc Davies, Llanddewi Brefi; Unawd a Llefaru Blwyddyn 1 a 2 – Mari Jones, Llanddewi Brefi; Unawd Bl 3 a 4 ac enillydd yr unawdydd mwyaf addawol – Trefor Davies, Llanddewi Brefi; Llefaru Bl 3 a 4 - Gwen Evans, Tregaron; Llefaru Bl 5-6 – Arthur Evans, Tregaron; Llefaru Bl 5-6 ac enillydd yr adroddwr mwyaf addawol- Gwion Lewis Hughes; Barddoniaeth Bl 3 a 4 – Blake Poole, Llanddewi Brefi; Barddoniaeth Bl 5- 6 – Megan Davies, Tregaron; Celf Derbyn a Bl 1 – Isabella Parson-Cummings; Celf Bl 2 – Ffloren Davies; Celf Bl 3 a 4 ac enillydd yr arlunydd gorau – Jac Davies; Celf Bl 5 a 6 - Ifan Lawlor; Dawns ‘Ni fydd y wal’ - ‘Curiad Caron’ - Megan a Nel.

Unawdydd - Trefor Davies, Llanddewi Brefi ac Her Adroddiad - Sulwen Davies
Unawdydd - Trefor Davies, Llanddewi Brefi ac Her Adroddiad - Sulwen Davies (Eisteddfod Tregaron)

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Agored ar y Dydd Sadwrn gyda’r beirniaid Glenys Roberts, Llundain, y Prifardd Tudur Dylan Jones a Heiddwen Tomos. Llywydd y dydd oedd Peredur Evans a chafwyd ganddo anerchiad gwerth ei chlywed. Diolch iddo ef a Delyth am eu cyfraniad hael.

Enillwyd yr Her Unawd gan Kees Huysmans, Llanbedr pont Steffan a’r Her Adroddiad gan Sulwen Davies. Efan Williams, Lledrod aeth â gwobr yr Hen Ganiadau.

Unawd a Llefaru Cyfnod Sylfaen – 1. Leusa Ann Hatcher; Unawd Bl 3 a 4 - 1. Hanna; Sisto, Gorsgoch; Llefaru Bl 3 a 4 – 1 Trefor Davies, Llanddewi Brefi; Unawd offerynnol – 1. Ceinwen Green; Unawd a Llefaru Bl 5 a 6 – 1. Arthur Evans; Canu Emyn oed cyntadd – 1. Hanna Sisto; Unawd Bl 7-9 – Mali Jones; Unawd a llefaru bl 10-13 – Peredur Hedd Llywelyn; Unawd Cerdd Dant 7-13 – 1. Hanna Sisto; Unawd Offerynnol 7-13 1. Elenor Nicholas; Canu Emyn bl 7-13 1. Peredur Hedd Llywelyn; Darllen darn o’r Ysgrythur – Magw Thomas; Canu emyn dros 60 1. Daniel Rees; Monolog – Peredur Hedd Llewelyn; Cân Bop neu allan o sioe Gerdd – Merched Soar; Her Unawd 18-30 oed - Osian Fish-Jenkins; Canu emyn 18-60 oed – Osian Fish-Jenkins

Côr – Merched Soar; Sgen ti Dalent – Merched Soar; Parti Canu – Parti Soar; Yr Her Unawd – Kees Huysmans; Yr Her Adroddiad – Sulwen Davies; Cenwch im yr Hen Ganiadau – Efan Williams

Cipiwyd y gadair mewn cystadleuaeth gref gan Anwen James, Llangeitho am gerdd dan y teitl ‘Cysgod’ a ysbrydolwyd gan stori gefndirol enillwyr y goron a’r gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni. Steffan Nicholas o Aberystwyth aeth â Thlws yr Ifanc i rai dan 21 oed am ysgrif yn seiliedig ar fynd i gerdded yn Santiago.

Llenyddol Megan Richards, Aberaeron ( Ysgrif a Limerig ); Enfys Hatcher Davies, Llanddewi Brefi (Pennill Telyn a Brawddeg); Delyth Ifan, Talybont ( Llên Meicro); Gwenno Jones, Ysgol Henry Richard (Cerdd Bl 7-11); Cystadleuaeth i Ddysgwyr -1. Martin Ivers, Llanrhystud. 1. Catrin Fflur Huws (Stori Fer). Siw Hartson, Llundain – (Telyneg).

Gwerthfawrogwyd cyfraniad Merched Soar i’r cystadlaethau ar y nos Sadwrn gan iddynt gyfoethogi’r noson. Diolch hefyd i Ysgol Henry Richard am drefnu’r cystadlu lleol ac i bawb a sicrhaodd lwyddiant yr Eisteddfod mewn pob ffordd posib.