Cynhaliwyd Treialon Cwn Defaid a Sioe Cwmsychpant a’r Cylch ddydd Sadwrn, 9 Awst.

Llywyddion y dydd oedd Gareth a Sulwen Lloyd, Cwrtnewydd. Roedd holl elw’r dydd yn mynd tuag at Uned Gofal Arbennig Babanod [SCUBU] Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

Cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn gyda’r haul yn gwenu drwy gydol y dydd.

Lluniau a geiriau gan Nia Davies.

Meleri Williams gyda’i basged o lysiau a hi hefyd enillodd y cwpan i’r unigolyn â’r marciau uchaf yn yr adran Cynnyrch Gardd.
Meleri Williams gyda’i basged o lysiau a hi hefyd enillodd y cwpan i’r unigolyn â’r marciau uchaf yn yr adran Cynnyrch Gardd. (Nia Davies)
Erika Davies, enillydd yr Adran Flodau.
Erika Davies, enillydd yr Adran Flodau. (Nia Davies)
Teleri Davies, enillydd yn yr Adran Gelfyddyd Blodau.
Teleri Davies, enillydd yn yr Adran Gelfyddyd Blodau. (Nia Davies)
Wendy Davies gyda’i chacen dathlu a hi hefyd enillodd y cwpan i’r unigolyn â’r marciau uchaf yn yr adran Goginio.
Wendy Davies gyda’i chacen dathlu a hi hefyd enillodd y cwpan i’r unigolyn â’r marciau uchaf yn yr adran Goginio. (Nia Davies)
Megan Richards, enillydd yr Adran Gwinoedd.
Megan Richards, enillydd yr Adran Gwinoedd. (Nia Davies)
Adran yr Hen Beiriannau
Adran yr Hen Beiriannau (Nia Davies)