MAE criw o swyddogion a phrif swyddogion wedi cychwyn ar eu dyletswyddau i hyrwyddo gwerthoedd Penweddig, sef Cymreictod, parch ac ymdrech gyda disgyblion yr ysgol.

Y prif swyddogion am y flwyddyn nesaf yw Caoimhe Melangell a Lleucu Nest, gyda Dafydd Lewis, Ffion Wynne, Elan Mabbutt a Llio Tanat yn gweithredu fel dirprwy brif swyddogion.

Dywedodd y prifathro, Clive Williams: "Diolch i bawb fu’n darparu cyflwyniadau ar gyfer fod yn swyddogion. Pob hwyl i Alexandria Williams, Angharad Lloyd, Elin Williams, Ffion Griffiths, Gwennan Hoskins, Isobel Coyne, John Lowe, Paul Lowe, Seren Skipp, Tirion Sedgwick a Tomos Afan gyda’r gwaith ym mis Medi."