DAETH côr o Feirionnydd yn fuddugol yn yr Wyl Geltaidd yn Iwerddon penwythnos diwethaf.
Bu Côr y Brythoniaid ar ymweliad â’r Ynys Werdd dros benwythnos 25 i 28 Ebrill i gystadlu yn yr Wyl Ban Geltaidd.
Eleni, fel y llynedd, cynhaliwyd yr Wyl yn Letterkenny ym mhellafion gogledd-orllewin Iwerddon, taith o bedair awr o Ddulyn.
Cartref y côr dros gyfnod yr wyl oedd gwesty yn Nonegal, i’r de o Letterkenny.
Wedi taith hir ond digyffro draw i Ddonegal ar y dydd Iau, cafodd y côr gyfle i ymlacio ac ymgyfarwyddo â’r dref. Dydd Gwener teithiwyd i Letterkenny er mwyn cymryd rhan mewn cyngerdd yn Theatr An Grianan y noson honno. Ymysg y chwe chôr a oedd yn cymryd rhan 'roedd Côr Hyn Glanaethwy a Cantilena, côr ardderchog o bobl ifanc o Ddyffryn Conwy.
Wedi perfformio yn y cyngerdd rhaid oedd symud ar fyrder ychydig bellter i lawr y ffordd i westy enfawr Mount Errigal ar gyfer noson y Cymry, ble roedd yr artistiaid o Gymru i gyd yn cael cyfle i berfformio. Profiad braf i’r Brythoniaid oedd cael uno gyda chôr Meibion Marchan o Ddyffryn Clwyd i gydganu’r emyn dôn Gwahoddiad.
Dydd Sadwrn oedd diwrnod y cystadlu a hynny yng Ngholeg Colaiste Ailaigh. Cystadleuaeth gyntaf y Brythoniaid oedd cystadleuaeth y corau meibion. Yna, yn hwyrach yn y prynhawn, cynhaliwyd y gystadleuaeth agored, gyda chwe chôr yn cymryd rhan, pedwar o Gymru, un o Lundain ac un o’r Iwerddon. Roedd yn rhaid i bawb ymgynnull yng ngwesty Mount Errigal am 8yh y noson honno i dderbyn y canlyniadau. Mawr oedd y dathlu a’r llawenydd pan gyhoeddwyd mai’r Brythoniaid oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y corau meibion a thestun balchder hefyd oedd dod yn ail i Cantilena, enillwyr haeddiannol iawn, yn y gystadleuaeth agored.
Dyma’r tro cyntaf ers sefydlu’r côr yn 1964 i’r Brythoniaid gystadlu yn yr Wyl Ban Geltaidd ond yn dilyn y llwyddiant a gafwyd eleni y mae’r aelodau eisoes yn sôn am ddychwelyd yn fuan.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.