Mae Bois y Gilfach – sy’n hanu o Ddyffryn Aeron, ardal Banc Siôn Cwilt a’r bröydd cyfagos ac sy’n cyfarfod yn wythnosol yn Nhafarn y Gilfach, Mydroilyn i ymarfer – yn parhau i ddiddanu cynulleidfaoedd yn gyson mewn cyngherddau a nosweithiau cymdeithasol.
Ers y dechrau mae’r parti wedi bod yn codi arian yn flynyddol i elusennau ac achosion da sy’n cynnwys Canolfan y Bont (y ganolfan addysg i blant ag anghenion dwys yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan); Calonnau Cymru a Sefydliad y Galon; RABI; Ward Meurig yn Ysbyty Bronglais; Beiciau Gwaed Cymru; Parkinson’s Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru.
Yn ystod 2018/19 dewisodd y bois gefnogi achos sy’n agos iawn at eu calon, sef yr uned gemotherapi newydd a fydd yn cael ei hadeiladu cyn bo hir yn Ysbyty Bronglais.
Roedd gweithgarwch y flwyddyn yn cynnwys cymryd rhan mewn nosweithiau cymdeithasol yn Nerwen Gam, Llanfihangel-ar-arth, Clwb Chwaraeon Aberaeron, Talgarreg, Sarnau, Llambed, Llwyncelyn a Cheinewydd; ymuno ag artistiaid eraill i ddilyn ‘Llwybrau Robat Arwyn’ yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul; dathlu G?yl Dewi yn Neuadd Goffa Aberaeron; canu mewn cymanfa yng Nghribyn; camu i’r llwyfan yng Ng?yl Gwenlli; a chymryd rhan ym mhriodas Ben, un o aelodau’r parti.
Yn ogystal â mynychu digwyddiadau wedi’u trefnu gan eraill, buodd y bois hefyd yn trefnu ambell weithgaredd eu hunain.
Pleser mawr ym mis Ionawr eleni oedd mynd i Ward Leri i gyflwyno siec o £10,000 i Dr Elin Jones a’i staff.
Am y stori lawn, gwelwch y Cambrian News, yn siopau ac arlein heddiw







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.