Owain Rhys, yn gwreiddiol o Llandwrog, ger Caernarfon, yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni.

Noddir y Goron gan Elin Haf Davies a chyflwynir y wobr ariannol o £750 gan Prydwen Elfed Owens, er cof am ei rhieni a blynyddoedd hapus ei phlentyndod ym Mwlchgwyn ac yn Ysgol Gwynfryn.. Cynlluniwyd a chynhyrchwyd y Goron gan Neil Rayment ac Elan Rowlands. Dyma’r ddau a greodd y Goron drawiadol ar gyfer Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024, a enillwyd gan Gwynfor Dafydd am ei gyfres o gerddi ar y testun ‘Atgof’.

Fe’i chyflwynir am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc ‘Adfeilion’. Y beirniaid eleni yw Gwyneth Lewis, Siôn Aled ac Ifor ap Glyn, sy’n traddodi o’r llwyfan. Meddai, Mae casgliad Llif 2 yn agor gyda’r cwpled syml ‘Pan fyddi di’n anghofio / bob dydd wrth iti ddeffro’ – ac mae’n trafod byw efo rhywun sy’n dioddef hefo dementia, sef mam y bardd. Mae’n ymdriniaeth dawel a sensitif â’r hyn sydd yn rhaid ei wneud i helpu’r fam barhau i fyw’n urddasol wrth i’w chof hi ddadfeilio.

“Mae’r casgliad yn cyflwyno darlun tyner o sefyllfa anodd sy’n wynebu cymaint o deuluoedd heddiw, a synhwyrwn ddyfnder teimladau’r bardd tuag at ei fam, a’i chadernid gynt. Fe’i cyffelybir hi yn ei thro â thrindod o ferched cryfion o’n gorffennol, Rhiannon, Heledd a Buddug; a rhannwn chwithdod y bardd yn gorfod ei helpu bellach i roi trefn ar ei desg ei hun: ‘Ar yr olwg gyntaf, / twmpath dinod oedd y ddesg, / ond o grafu’r wyneb / daw’n amlwg y bu yma damchwa.’ Mae’r ddesg yn symbol o’i chof.

“Dyma gasgliad grymus a chyfoethog a gydiodd ynof i ar y darlleniad cyntaf, gyda phob darlleniad wedyn ond yn datgelu haenau pellach i’w gwerthfawrogi. Mewn cystadleuaeth gref eleni, gellid bod wedi trafod coroni Hafgan a Traed yn Dŵr, ond casgliad Llif 2 sydd fwyaf cymen a chyson ei safon. Llif 2, felly, sy’n mynd â hi eleni, ac yn llawn haeddu Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Llongyfarchiadau iddo.”

Ceir canmoliaeth gan Gwyneth Lewis yn ei beirniadaeth hefyd, “Mae’r testun yno’n gadarn yn y gerdd, heb ei orlabyddio. Mae yma gyffyrddiadau hyfryd, fel y bardd yn sôn am glirio archif teuluol a thaflu papurau teuluol i ‘flwch o amgueddfa’. Llais telynegol clir, meddylgar a thyner sy’n rhedeg trwy’r gerdd, ac mae gan Llif 2 y gallu i grynhoi profiad mewn ychydig eiriau.

“Nid yw ysgrifennu’n uniongyrchol na bod mor ddiwastraff-geiriau yn hawdd. Mae’r gerdd yn cau’n fuddugoliaethus gyda’r honiad mai ‘nid cerdd mo hon / ond darnau bach o sêr, / petalau / ar ddalen wen, / rhag ofn’. Mae yma ofal emosiynol a geiriol arbennig ac mae’n llawenydd dyfarnu’r Goron i Llif 2. Llongyfarchiadau gwresog iddo fe/hi.”

Ac fel ei gyd-feirniaid, mae Siôn Aled yntau’n canmol gwaith Llif 2 – er ei fod yn credu fod dau fardd arall hefyd yn deilwng o’r Goron eleni - gan ddweud, “‘Ingol’ yw’r gair sy’n dod i frig y meddwl wrth ddarllen dilyniant Llif 2. Mae’n dechrau’n ymddangosiadol ddiniwed, rhamantus hyd yn oed, yn null penillion gwerin, ond hyd yn oed yma, mae blas o’r ing, a chrybwyll y ‘border bach’ efallai’n adleisio cerdd arall am heneiddio. Gwaetha’r modd, nid heneiddio hardd sy’n ein disgwyl drwy weddill y cerddi ond heneiddio creulon dementia.

“…Ystyriaf Hafgan, Llef 2 a Traed yn Dŵr ill tri yn deilwng o’r Goron eleni, ond am gyfanwaith mor gadarn o grefft a deifiol ei ddweud, Llef 2 sydd yn mynd â hi yn fy marn i, ac rwy’n falch ein bod ein tri fel beirniaid yn gytûn ar hynny. Llongyfarchiadau gwresog i Llef 2 a gobeithio’n wir y bydd dygn ddarllen ar y gwaith.”

Mae Owain Rhys yn wreiddiol o Landwrog, ger Caernarfon, ond wedi bod yn byw yn y brifddinas ers ei fod yn bedair ar ddeg. Mae bellach yn byw yn y Tyllgoed, Caerdydd, gyda’i briod, Lleucu Siencyn, a’i blant, Gruffudd a Dyddgu. Ar ôl gweithio i Amgueddfa Cymru am dros ugain mlynedd, mae nawr yn gweithio ym maes ymgysylltu cymunedol a gwerth cymdeithasol.

Bu’n aelod o dîm Aberhafren, a ddaeth i’r brig ddwywaith ar raglen Radio Cymru, Talwrn y Beirdd. Mae hefyd wedi bod yn fuddugol yng nghystadlaethau’r englyn a’r englynion milwr yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae ganddo radd mewn archaeoleg, ac MA mewn Astudiaethau Amgueddfaol. Mae wrth ei fodd yn teithio Cymru a’r byd i weld cestyll, adfeilion, a beddrodau.

Mae’n ffan o dîm pêl-droed Wrecsam ers y 1970au, ac wedi profi sawl siom (ac ambell orfoledd!) wrth eu cefnogi dros y blynyddoedd.

Mae’n aelod o Gorff Llywodraethol Ysgol Gymraeg Nant Caerau er 2010, ac yn cael pleser llwyr o weld disgyblion ardal Trelái a Chaerau yng Nghaerdydd yn llwyddo, wedi eu meithrin yn awyrgylch cynhwysol a chefnogol yr ysgol. Mae’n gadeirydd cangen Caerdydd o fudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG), ac yn ymddiriedolwr ar eu Bwrdd Cenedlaethol.

Mae’r Goron wedi'i hysbrydoli gan y ffosiliau hynafol a ddarganfuwyd yng Nghoedwig Brymbo – sy'n dyddio'n ôl dros 300 miliwn o flynyddoedd i'r cyfnod Carbonifferaidd. Yn ystod y cyfnod hwn, ffurfiodd haenau o falurion planhigion – ynghyd â llifogydd – y gwythiennau glo cyfoethog a siapiodd etifeddiaeth ddiwydiannol Wrecsam. Y ffosiliau yma yw sylfaen symbolaidd y Goron, gan gynrychioli sylfeini dwfn hunaniaeth y rhanbarth.

Yn amgylchynu'r Goron mae patrwm organig ailadroddus wedi'i gymryd yn uniongyrchol o ffurfiau ffosiliedig. Wedi'u hymgorffori o fewn patrymau amgen, mae dyddiadau allweddol sy'n nodi cerrig milltir pwysig yn hanes Wrecsam. Mae’r rhain yn cynnwys Adeiladu Tŷ Strode ger Brymbo yn 1725, a dechrau Chwyldro Diwydiannol Wrecsam pan agorwyd Gwaith Haearn Bersham yn 1782, sefydlu Gwaith Haearn Brymbo ddegawd yn ddiweddarach, a chychwyn adeiladu Traphont Pontcysyllte yn 1795.

Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn 1864, a 157 o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn 2021, prynodd yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney y clwb. Lansiwyd Lager Wrecsam yn 1882, ac fe anwyd James Idwal Jones, awdur yr atlas hanesyddol cyntaf o Gymru yn 1900. Erbyn 1913 roedd 10,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi yn y maes glo.

Yn ganolog i'r Goron mae ail-ddychmygiad o’r Nod Cyfrin (a ddyluniwyd yn wreiddiol ar gyfer yr Eisteddfod y llynedd) sydd bellach yn cynnwys gwead garw, tebyg i garreg, i adleisio'r ysbrydoliaeth ddaearegol. Mae'r gair WRECSAM wedi'i osod yn falch ar draws y Goron mewn ffont pwrpasol sy'n talu teyrnged i'r arwydd "Wrexham" arddull Hollywood eiconig a ddatgelwyd yn 2021.

Cefnogir y seremoni eleni gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen ac mae’r Eisteddfod yn ddiolchgar iawn i’r ymddiriedolwyr a’r corff am eu cefnogaeth hael.

Bydd y cerddi buddugol yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod ar ôl y seremoni, a bydd modd prynu’r ‘Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn Is-y-Coed tan 9 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.