Côr Meibion
CYNHALIWYD Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y côr yn Festri Brondeifi nos Fercher, 17 Ionawr.Llywyddwyd y cyfarfod gan Alun Williams.Yn ei annerchiad amlinellodd Mr Williams weithgareddau’r côr yn flwyddyn a aeth heibio, gan fynegi ei bleser ef a’i briod o fod yng nghwmni’r côr bob amser.Diolchodd i’r swyddogion am baratoi a dosbarthu eu hadroddiadau ymlaen llaw. Roedd pob adrod-diad yn gryno a chynhwysfawr.
Penodwyd y canlynol yn swyddogion am y flwyddyn sydd i ddod: llywydd, Alun Williams; is-lywyddion, Penodwyd Sid Evans at y rhai presennol; cadeirydd, Ken Lewis; is-gadeirydd, Haydn Richards; ysgrifennydd, Alun Jones; trysorydd, Keri Davies; is-ysgrifennydd, Danny Davies; ysgrifennydd cofnodion, Dan Griffiths; ysgrifennydd aelodaeth, Emlyn Davies a Richard Edwards; llyfrgellydd, Bryan Davies; trefnydd, Danny Davies; rheolwr llwyfan, Eifion Davies; gohebydd y wasg, Stan Evans; cadarnhau yr arweinyddes a’r gyfeilyddes, Elonwy Davies a Elonwy Pugh Huysmans; pwyllgor cerdd - ail ethol yr aelodau presennol; swyddog ricriwtio, pob aelod o’r côr; swyddog archifau, Emyr Jenkins.Wrth gloi’r cyfarfod mynegodd y cadeirydd ei ddymuniad o weld aelodaeth y côr yn cynyddu.
Ychwanegodd fod croeso i unrhyw un sydd â diddordeb i ddod i’r ymarferion sy’n cael eu cynnal bob nos Fercher yn Festri Brondeifi am 8yh.Darparwyd lluniaeth blasus a derbyniol ar ôl y cyfarfod gan Elfan James, Mark Lane.




-1.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.