bedr Pont Steffan ynghyd ar 12 Ionawr yng Ngwesty’r Grannell yn Llanwnnen ar gyfer eu cyfarfod cyntaf o’r flwyddyn newydd a’r tro yma cafodd y llywydd, John Davies, Tynlofft y pleser o gyflwyno un o aelodau gwreiddiol y clwb, sef John Phillips, cyfarwyddwr Cyngor Sir Dyfed gynt, i roi cipolwg ar waith ei ddiweddar wraig, Bethan, dan y pennawd ‘Ffilmiau Bethan Phillips’.

Cychwynnodd Mr Phillips trwy olrhain tipyn o’r llwybrau ddaethant ag ef a Bethan i gysylltiad â’i gilydd ac i Lanbed yn y pen draw - ei lwybr ef yn dechrau yng Ngwaun Cae Gurwen ac yn arwain i fyd addysg a llywodraeth leol.

Brodor o Lanbed oedd Bethan a’i llwybr hithau’n ei harwain i gyfarfod a John yng ngholeg Aberystwyth, ef yn ymchwilydd a hithau ar ei blwyddyn gyntaf yn astudio Lladin

Bu’n rhaid i John wneud gwasanaeth milwrol am ddwy flynedd, ond yna ar ôl priodi yn Llanbed, treuliodd y ddau rai blynyddoedd fel athrawon yn Llundain cyn dychwelyd i Gymru.

Gwasanaethodd John fel Cyfarwyddwr Addysg yn sir Aberteifi a Dyfed ac yna fel Prif Weithredwr y sir.

Un a ddaeth o Johannesburg yn 23 oed oedd mam Bethan a chael swydd ym meddygfa Dr Albert Evans yn Llanbed ac o ganlyniad Saesneg oedd iaith y cartref.

Diolch i athrawes Gymraeg Ysgol Gyfun Llanbed, Sally Davies, cafodd Bethan ei thrwytho yn y Gymraeg gyda’r dosbarth “iaith gyntaf” a dyna osod y seiliau i’w gyrfa fel awdures.

Yn 1983 cyhoeddwyd Peterwell, ei hastudiaeth ysgolheigaidd o fywyd ac amserau Syr Herbert Lloyd a phlasty Ffynnonbedr, cyfraniad safonol i hanes Llanbed a’r fro. Yna yn 1991 daeth y gyfres gyfarwydd “Dihirod Dyfed” i’r sgrin deledu, 13 rhaglen a sgriptiwyd gan Bethan i S4C ac yn cynrychioli ffrwyth deuddeg mlynedd o ymchwil.

Yn y prosiect yma bu Bethan yn cydweithio gyda’r cynhyrchydd Paul Turner. Yn 2003 cyhoeddwyd y llyfr Dihirod Dyfed yn seiliedig ar y gyfres. Cyfeiriodd Mr Phillips hefyd at lyfr cyfarwydd arall o waith Bethan a gyhoeddwyd yn 1998 sef Rhwng Dau Fyd - Y Swagman o Geredigion. Bu Mr Phillips mor garedig a threfnu dangosiad o rai o ffilmiau Bethan er diddanwch yr aelodau - un o benodau’r gyfres deledu Dihirod Dyfed ac yna ffilm fer yn dangos golygfeydd hyfryd o ddyffrynnoedd Teifi ac Aeron gyda dwy gantores adnabyddus o’r broydd hynny, Rosalind Lloyd a Doreen Lewis yn canu’r gân swynol honno sy’n dwyn yr un teitl.

Diolchodd y llywydd i Mr Phillips am ei gyflwyniad gan nodi ei fawr fwynhad, a diolchodd hefyd i Dylan Lewis am ei gymorth i ddangos y ffilmiau.

Daeth y llywydd a’r noson i ben trwy thynnu sylw at gyfarfod nesaf y clwb ar 2 Chwefror am 7.30yh yn yr un lleoliad pan groesawir Mared Rand Jones, pennaeth gweithrediadau y sioe frenhinol, i sôn am ‘Heriau’r presennol a’r dyfodol i’r sioe’.

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]