Bu diwedd 2022 yn gyfnod prysur i gangen Merched y Wawr Cylch Aeron.
Nos Wener, 11 Tachwedd, cynhaliwyd Cwis Cenedlaethol Merched y Wawr, Rhanbarth Ceredigion yn Neuadd Goffa Aberaeron.
Braf gweld y neuadd dan ei sang a’r aelodau yn mwynhau’r cwis hwyliog.
Roedd pedwar tim o’r gangen yn cystadlu a llongyfarchiadau i dim Gwenda Davies, Marina James, Sandra Lake a Carys Roberts ar ddod yn gydradd drydydd yn y rhanbarth.
Teitl y cyfarfod nos Fercher, 30 Tachwedd oedd ‘Beth alla i wisgo?’ ac yn ateb y cwestiwn roedd y delynores enwog Meinir Heulyn.
Yn frodor o’r ardal ac yn gyn-ddisgybl yn ysgol Gyfun Aberaeron mae Meinir wedi cael gyrfa ddisglair iawn.
Bu’n brif delynores Cwmni Opera Cymru ac yn bennaeth yr Adran Telyn yn y Coleg Cerdd a Drama.
Ers iddi ymddeol a dychwelyd i’r ardal mae’n parhau i hyfforddi ac ysbrydoli telynorion y dyfodol; un fenter yw clwb Telyn y Castell.
Rhaid diolch hefyd i ŵr Meinir, am ymuno gyda ni a bod yng ngofal y pwynt pwer a’r sleidiau.
Adroddodd Meinir hanesion difyr am ei gyrfa a’i theithiau ar draws y byd a chawsom weld lluniau o’r gwisgoedd hyfryd, y ffrogiau ysblennydd, heb sôn am y sgert fini.
Diolch i Myfanwy Williams am drefnu’r noson ac i ferched Llanarth am helpu gyda’r te.
Lleoliad cinio Nadolig y gangen eleni oedd Gwesty Llanina.
Treuliodd yr aelodau brynhawn dymunol iawn yn ymlacio, cymdeithasu, gwneud cwis a braf oedd cael tynnu anadl yng nghanol prysurdeb y paratoi ar gyfer yr ŵyl.
Diolch i Angharad John am drefnu mor effeithiol ac am y raffl.
Diolch hefyd i Lanina am y croeso cynnes a’r cinio blasus.
Cynhelir y cyfarfod nesaf nos Fercher, 25 Ionawr yn Festri Tabernacl gyda Caryl a Rhian yn sôn am eu menter ‘Cwyr Cain’.
Derbynnir enwau a thâl ar gyfer swper Gŵyl Ddewi i’w gynnal yn y Cwch Gwenyn 1 Mawrth.
Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.