Bydd cyfrol newydd gan Wasg y Lolfa, Hiwmor Tri Chardi Llengar, yn codi’r llen ar dri Chardi amlwg oedd yn ffrindiau pennaf – William Morgan (Moc) Rogers, Tegwyn Jones a Hywel Teifi Edwards.

Mae’r gyfrol wedi ei hysgrifennu gan un o haneswyr amlycaf Cymru, Geraint H. Jenkins, sydd hefyd yn hanu o Geredigion.

Meddai: “Yn ogystal â’u hanes, roeddwn eisiau dangos yn y gyfrol hon yr hiwmor unigryw sydd i’w chael yng Ngheredigion.

“Roedd y tri yn hen law ar gosi’r dychymyg, tynnu coes a pheri i bobl chwerthin yn braf.

“Ac fel un oedd yn nabod y tri yn bersonol, rwyf wedi cynnwys amryw o straeon difyr ac enghreifftiau o’u hiwmor unigryw.”

Mae yna amryw o bethau yn gyffredin rhwng y tri – astudiodd y tri yn y coleg ger y lli, bu’r tri yn dysgu Cymraeg yng nghymoedd Sir Forgannwg ac fe gafodd y tri yrfa lwyddiannus.

Moc oedd cyfieithydd cyntaf y Swyddfa Gymreig, Tegwyn oedd un o olygyddion Geiriadur yr Academi a Hywel oedd athro cadeiriol y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae’r gyfrol wedi ei rhannu yn dair rhan, gan gychwyn gyda Moc Rogers.

Meddai Geraint: “Roedd Moc ar ei orau yn parablu’n ddifyr am ddygnwch, cymwynasgarwch a chynhesrwydd teuluoedd Ffair-rhos. Byrlymai wrth adrodd hanesion trwstan ei gyd-werinwyr ac yn y gyfrol hon, rwyf wedi ceisio rhoi rhai o’r straeon hynny ar gof a chadw.”

Yr ail i gael sylw yn y gyfrol ydy Tegwyn Jones, gafodd ei fagu ym Mhen-y-bont Rhydybeddau, yr unig un arhosodd yn ei ardal enedigol. Mae’n cael ei ddisgrifio yn y gyfrol fel ‘un o hyrwyddwyr pennaf yr awen ysgafn’.

Ychwanegodd Geraint: “Roedd Tegwyn wrth ei fodd gyda chymeriadau lliwgar a digrifwch bras, yn ogystal â iaith gyhyrol a hiwmor gwerinol ac agos-atoch. Dw i wedi cynnwys enghreifftiau o’r diddordeb hwn yn y gyfrol, yn ogystal â rhai o’i ‘gerddi dwli’ megis Llan-twdl-dw.”

Yn cloi y gyfrol mae Hywel Teifi Edwards, oedd yn enedigol o Landdewi Aber-arth ger Aberaeron.

Yn ôl Geraint: “Enigma o Gardi oedd Hywel Teifi, yn ysgolhaig a chyfathrebwr na welwyd ei debyg o’r blaen. Roedd ganddo lais fel taran a gallai gyfuno hiwmor direidus â siarad plaen, hallt.

“Yn y gyfrol, rwy’n rhannu rhai o straeon ei gyfoedion am ei gyfnod yn y coleg ger y lli a sut y ceisiai blesio ei wncwl, Gwenallt.

“Cawn hefyd ei hanes yn poeni dim am dynnu blewyn o drwyn rhai o hoelion wyth Cymru, gan gynnwys Saunders Lewis.

“Mae gen i hefyd hanesion yn y gyfrol am ei amharodrwydd i weld unrhyw un yn cywiro neu olygu ei waith. Mae gen i brofiad personol o hynny, ac un tro perswadiodd un o’i gyd-weithwyr i gyfansoddi cerdd ddychan yn fy meirniadu am ffidlan gyda’i waith!

“Creadur cymhleth a pharadocsaidd oedd Hywel ar lawer ystyr. Gallai fod yn garlamus a sentimental; yn ystyfnig ac yn gymwynasgar; yn ddeifiol ac yn galon-dyner; yn watwarus ac yn ganmoliaethus.

Fel y dywedodd Moc am ei gyfaill, ‘rhyw galeidosgop fuodd o erioed. Symudwch y bocs ewinfedd a fydd dim dal beth welwch chi na beth glywch chi.”

Bydd Hiwmor y Tri Chardi Llengar gan Geraint H. Jenkins ar werth mewn siopau Cymraeg lleol neu wefan y Lolfa o 1 Tachwedd. Y pris ydy £8.99.