Ar ddechrau eleni cyhoeddodd PYST (cwmni dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig) a’r Mentrau Iaith Cenedlaethol fwriad i bartneru er mwyn lansio cylchdaith reolaidd i ddod â cherddoriaeth fyw Gymraeg i ardaloedd mwy gwledig ac ardaloedd nad oedd yn cynnal gigs byw bellach.

Ym mis Ebrill gyda chefnogaeth cynllun Noson Allan gan Gyngor y Celfyddydau eleni digwyddodd y daith gyntaf gyda HMS Morris a gwesteion yn perfformio mewn 10 ardal dros Gymru.

The Gentle Good fydd yn perfformio mewn deg ardal arall yn yr ail daith yn ystod mis Hydref gyda chefnogaeth wahanol ymhob gig. Bydd y daith hon eto yn cael ei chefnogi gan gynllun Noson Allan.

Bydd The Gentle Good yn perfformio yn: 4.10 – Cartref Dylan Thomas, Abertawe (gyda Angharad Jenkins); 5.10 – Yr Hen Farchnad, Llandeilo (gyda Bwca); 6.10 – Y Cwtsh, Pontyberem (gyda Lowri Evans); 13.10 – Clwb y Bont, Pontypridd (gyda Y Dail); 14.10 – Memo, Y Barri (gyda Parisa Fouladi); 15.10 – Tyn y Twr Tavern, Baglan (gyda Melda Lois); 19.10 – Gwesty Pen y Bryn, Llanfairfechan (gyda Eve Goodman); 20.10 – Ystafell Gymunedol Ysgol Gymraeg y Trallwng, Y Trallwng (gyda Iwan Huws); 21.10 – Clwb Criced, Yr Wyddgrug (gyda Gwilym Bowen Rhys); 22.10 – Tafarn Y Fic, Llithfaen (gyda Gwyneth Glyn a Twm Morys)

Wrth gyhoeddi’r daith newydd, dywedodd Alun Llwyd, prif weithredwr PYST: “Mae’n wych gweld yr ail daith yn datblygu ar lwyddiant y cyntaf ac yn mentro i fwy o ardaloedd a chanolfannau newydd fel bod ymgysylltiad â cherddoriaeth Gymraeg yn parhau i dyfu.”

Ychwanegodd Tomos Jones ar ran y Mentrau Iaith: “Roedd yn wych i weld cerddoriaeth fyw iaith Gymraeg yn ymweld ag amrywiaeth o ardaloedd gwahanol ar draws Cymru ar y daith gyntaf. Gyda’r ail daith yn ymweld â Mentrau a lleoliadau newydd, edrychwn ymlaen at greu mwy o gyfleoedd i bobl mwynhau’r celfyddydau iaith Gymraeg ar draws y wlad.”

Ychwanegodd Gareth Bonello (The Gentle Good): “Dwi wrth fy modd gyda’r cyfle arbennig yma i rannu fy ngherddoriaeth ar hyd a lled y wlad. Mae cerddoriaeth byw yn rhan bwysig o’r clytwaith cymdeithasol sy’n cynnal ein cymunedau ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at berfformio i gynulleidfaoedd newydd mewn lleoliadau sy’n dra gwahanol i’r arfer.”

Rhyddhawyd Galargan, albym newydd The Gentle Good drwy Bubblewrap Collective ddydd Llun.