Mae’r awdur poblogaidd John Alwyn Griffiths wedi cyhoeddi ei ddeuddegfed nofel – un bob blwyddyn ers 2011 – ac unwaith yn rhagor, y ditectif poblogaidd Jeff Evans sy’n serennu.

Medd John: “Eto eleni, mae Jeff yn ôl! Mae o wedi tyfu’n gymeriad eitha poblogaidd erbyn hyn, yn ogystal ag un neu ddau o’i gydgymeriadau yn nhref Glan Morfa, fel Esmor, y cipar afon, a’i hysbysydd lliwgar, Nansi’r Nos.

“Yn y nofel hon, mae Jeff yn gorfod mynd ar ofyn yr hen Nansi am wybodaeth er mwyn ceisio datrys achos pwysig... ac mae hi’n cael ei hun mewn dyfroedd dyfnion!”

Ymosodiad ar gipar afon yng Nglan Morfa sy’n sbarduno plot Dan y Dŵr – ac mae’r nofel yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd yn y byd o’n cwmpas, fel yr eglura’r awdur: “Wrth i Jeff ddechrau ymchwilio i’r ymosodiad mae’n dod yn amlwg fod rhywbeth yn gwenwyno’r afon leol a’r pysgod sydd ynddi.

“Mae materion amgylcheddol fel hyn yn bethau sy’n effeithio ar ardaloedd ledled Cymru a’r tu hwnt ­– mae gollwng carthion i’r môr a’n hafonydd wedi bod yn y newyddion ers misoedd bellach – a dwi’n meddwl ei bod yn bwysig fod pobl yn medru uniaethu â’r sefyllfaoedd mae’r ditectif Jeff Evans yn delio â nhw fel plismon mewn tref wledig yng Nghymru.”

Wrth gwrs, mae’r ymchwiliad yn arwain Jeff yn ddwfn i weithgareddau mwy sinistr o lawer, ac mae llygredd o fath arall yn dod i’r amlwg.

“Mae Jeff yn gorfod cydweithio â llu heddlu arall er mwyn datrys yr achos, ac mae’r nofel yn adlewyrchu’r cymhlethdod sy’n gysylltiedig ag ymchwiliad sy’n croesi ffiniau daearyddol.

“Mae troseddau sy’n croesi sawl ffin wedi dod yn fwyfwy cyffredin bellach, ac ro’n i’n awyddus i bwysleisio pa mor heriol ydi hynny i’r heddlu, yng nghefn gwlad Cymru yn ogystal ag yn y dinasoedd mawr.”

Er bod ganddo dair cyfrol ar ddeg (yn cynnwys ei hunangofiant, Pleserau’r Plismon) dan ei felt bellach, wnaeth o erioed feddwl y byddai’n medru galw’i hun yn awdur.

“Wnes i erioed ddychmygu y byddwn yn cael ail yrfa, fel petai, fel awdur, a doedd neb sy’n fy adnabod yn disgwyl y fath beth chwaith.

“Ond erbyn hyn, mae ysgrifennu nofelau wedi dod yn rhan helaeth o ’mywyd i, ac ar hyn o bryd alla i ddim dychmygu rhoi’r gorau iddi.

“Mae’r hyn a ddechreuodd fel hobi wedi tyfu’n rhywbeth llawer mwy... rhaid i mi feddwl am destun ar gyfer y nofel nesaf rŵan!’

Yn enedigol o Fangor, bu John yn heddwas drwy ei yrfa gan weithio ledled gogledd Cymru cyn ymddeol yn 1998 o fod yn bennaeth Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru. Treuliodd gyfnodau yn gweithio mewn nifer o drefi: Pwllheli, Llangefni, Caergybi, Conwy a Dolgellau yn eu plith, a chyfuniad o’r trefi hynny yw Glan Morfa, y dref ddychmygol sy’n gartref i’r ditectif Jeff Evans.

Un peth sy’n nodedig am nofelau John yw eu bod teitl pob un ohonynt yn dechrau efo’r gair ‘Dan’. Ond er bod eu teitlau’n gyson, does dim yn debyg am y plotiau, sydd i gyd wedi’u hysbrydoli gan achosion y bu’r awdur yn ymwneud â nhw yn ystod ei yrfa a phynciau cyfredol sydd yn y newyddion.

• Mae Dan y Dŵr ar werth ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg-gwalch.cymru a www.gwales.com.