MAE Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cwrdd gyda’r Bwrdd Gwlân Prydeinig i greu cynnig arbennig i aelodau sydd â diddordeb mewn cneifio.
Mae Gwlân Prydain yn cynnig gostyngiad o 50 y cant ar gyrsiau hyfforddiant Sêl Glas i aelodau CFfI Cymru.
Mae’r cymhwyster yn hanfodol i unrhyw un sy’n bwriadu cystadlu yn y gystadleuaeth cneifio a gynhelir gan CFfI Cymru fel rhan o ddigwyddiadau’r Sioe Frenhinol.
Prif bwrpas y cynllun fydd hyfforddi aelodau i safon Sêl Glas a fydd yn eu galluogi i gystadlu yng nghystadleuaeth Mudiad y Ffermwyr Ifanc yn Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf.
Trafodwyd hefyd datblygu’r gystadleuaeth trin gwlân a chytunodd y Bwrdd Gwlân i ddal ati gyda’i cefnogaeth ar gyfer y gystadleuaeth yn y Sioe Frenhinol.
Yn ôl rheolwr Cneifio Gwlân Prydain, Richard Schofield: “Mae’n cymryd sawl blwyddyn i ddatblygu gallu, ond os ‘ych chi’n dechrau’r ffordd cywir mae’n gwneud bywyd dipyn yn haws.
“Mae’n anodd iawn dadwneud arferion drwg.”
Dion Hughes o CFfI Uwchaled, ffederasiwn Clwyd oedd pencampwr Cneifio NFYFC yn 2018.
Yn dilyn ei lwyddiant yn Sioe Fawr Swydd Efrog, dywedodd Dion: “Does byth gormod o brofiad gyda chi i ddysgu mwy am gneifio.
“Mi wnes i gwblhau fy hyfforddiant Sêl Las yn 17 oed a gweithio i fyny i’r lefel nesaf. Un peth rwy’n ei ddifaru yw peidio gwneud digon o gyrsiau drwy Gwlân Prydeinig, felly dwi’n mynd i wneud mwy er mwyn parhau i wella.”
Mae Gwlân Prydain hefyd yn cynnig cwrs trin gwlân ac amrywiaeth o gyrsiau eraill.
Cysylltwch â Sue Turley neu Richard Schofield gan ddefnyddio’r wybodaeth isod am fwy o wybodaeth.
Gallwch hefyd gysylltu â Canolfan CFfI Cymru.
I sicrhau lle hyfforddi: Dyddiad cau ceisiadau yw 30 Mawrth 2019.
Cysylltwch â Sue Turley ar 07807 166226 neu Richard Schofiled ar 07966 291618.
Bydd angen i chi roi enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhif eich carden aelodaeth CFfI.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.