Derbyniodd Ffederasiwn Eryri dlws NFU Cymru am y cynnydd canrannol mwyaf yn nifer yr aelodau yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) CFfI Cymru a gynhaliwyd yn Aberystwyth.
Teithiodd aelodau o’r mudiad o bob cwr o Gymru i Aberystwyth i fynychu penwythnos y CCB, gyda’r amserlen hefyd yn cynnwys cyfarfodydd nifer o grwpiau llywio’r Ffederasiwn, cyfarfod y cyngor a dawns y cadeirydd.
Yn ystod y CCB fore Sadwrn, etholodd yr aelodau nifer o swyddogion i gynrychioli’r mudiad dros y flwyddyn nesaf.
Cafodd Geraint Lloyd, un o gyflwynwyr BBC Radio Cymru, ei ethol yn llywydd CFfI Cymru am ei drydydd tymor.
Cafodd Katie Davies, CFfI Sir Benfro ei hethol yn gadeirydd a Caryl Haf, CFfI Ceredigion ei hethol fel is-gadeirydd y mudiad.
Yn ogystal â chyhoeddi gwobr ffermwyr ifanc Eryri, a welodd gynnydd o 10 y cant yn eu haelodaeth, cafodd CFfI Ceredigion reswm i ddathlu hefyd, yn derbyn dau dlws, sef tlws Beynon Thomas am y nifer uchaf o bwyntiau gan aelodau iau, a thlws Western Mail am sgorio’r nifer fwyaf o bwyntiau yn holl raglenni gwaith CFfI Cymru trwy gydol y flwyddyn.
See this week’s north editions for the full story, in shops and online on Thursday