Roedd 2018 yn nodi canrif ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe nodwyd yr achlysur drwy gofio am y rhai aberthodd eu bywydau yn ystod y brwydro.
I’r awdur poblogaidd arobryn o Flaenau Ffestiniog, Geraint V Jones, dyma oedd egin syniad am stori, a ffrwyth ei lafur ydi’i nofel newydd Elena, a gyhoeddir gan Y Lolfa.
Meddai Geraint: “Chefais i erioed gyfle i adnabod tad fy mam am iddo gael ei ladd ar Gefn Pilkem, ddiwedd Gorffennaf 1917.
“O fewn deufis roedd fy nain yn colli brawd hefyd, yn yr un ardal.
“Fe gafodd fy nhaid arall, tad fy nhad, ddod adre’n fyw, ond nid yn groeniach o bell ffordd, am iddo gael ei anafu ar ddiwrnod cyntaf Brwydr y Somme.
“Rwy’n cofio mai tawedog iawn oedd o pan fyddwn i’n ceisio’i holi am ei amser yn Ffrainc.”
Wrth drafod syniad ei nofel ac o le daeth y stori, dywed Geraint: “Anodd egluro’n foddhaol pryd nac ymhle yn union y mae unrhyw nofel yn cychwyn gen i.
“Dwi’n rhyw amau mai’r ysgogiad i Elena oedd y profiad o ymweld eto, yn 2017, â bedd fy nhaid ym mynwent fechan Dragoon Camp, nepell o Ypres, ac yna teithio’r hanner milltir fyr o fan ‘no at fedd Hedd Wyn ym mynwent Artillery Wood.
“Wrth sefyll uwchben bedd y bardd, a dwyn i gof ddwy o’i gariadon yma ym Mlaenau Ffestiniog, cam bychain wedyn oedd sylweddoli bod pob bedd yn cuddio’i stori neu’i gyfrinach ei hun.”
Darllenwch mwy yn y Cambrian News yr wythnos hon, yn y siopau dydd Iau







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.