Daeth aelodau Clwb Cinio Cylch Llanbedr Pont Steffan ynghyd ar 5 Hydref yng nghlwb rygbi’r dref dan lywyddiaeth Philip Lodwig am y cyntaf o bum cyfarfod a gynhelir rhwng Hydref a Mawrth.

Dros yr haf fe lwyddodd yr ysgrifennydd siaradwyr, Twynog Davies, i drefnu rhaglen amrywiol a diddorol unwaith eto ac yn sicr rhoddwyd dechreuad da i’r tymor gan ŵr gwadd y noson, Dai Charles Evans, ei hun yn un o aelodau cyfarwydd y clwb, gyda’i gyflwyniad ar seiclo o’r Grand Canyon i Las Vegas i godi elw at Ysbyty Cancr Felindre.

Wedi troi at seiclo ar ôl dyddiau chwarae rygbi yr oedd Dai’n seiclwr profiadol erbyn iddo gwblhau ei daith elusen gyntaf o Lundain i Baris yn 2007 a dywedodd iddo glywed yn 2012 am daith seiclo’r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol a’r darlledwr Jonathan Davies yn yr Unol Daleithiau i godi elw at Ysbyty Cancr Felindre a phenderfynu ymuno â’r daith honno.

Cafodd ei ysbrydoli i gwblhau dwy daith arall gyda Jonathan dros yr un achos cyn cael diagnosis meddygol annisgwyl wnaeth arwain iddo ef ei hun i dderbyn triniaeth lwyddiannus yn Ysbyty Felindre.

Yr oedd ganddo gymhelliad arbennig felly dros ymuno a Jonathan a’i grŵp o tua 80 o seiclwyr ar daith 2022. Cafwyd tipyn o hanes y daith honno gan Dai gan ddangos nifer o luniau ohoni, taith o 400 milltir mewn bump niwrnod trwy olygfeydd epig y Grand Canyon i Las Vegas, ar adegau’n dringo i ddeng mil o droedfeddi.

Clywyd fod y daith wedi codi £1 miliwn a bod teithiau Jonathan gyda’i gilydd wedi codi £48m dros Ysbyty Felindre.

Yn fwy diweddar fe gwblhaodd Dai siwrnai seiclo arall, y tro hwn o Baris i Bordeaux ac yr oedd y llawfeddyg fu’n ei drin yn Felindre yn aelod arbennig iawn o’r cwmni y tro hwn.

Diolchodd y llywydd i Dai am fynd a’r aelodau ar daith ddiddorol dros ben gan awgrymu ei fod efallai wedi ysbrydoli eraill i seiclo tipyn.

Swyddogion eraill y clwb am dymor 2023/24 yw Tim Jones, is-lywydd; Tom James, trysorydd; a Richard Marks, ysgrifennydd cyffredinol.

Cynhelir cyfarfod nesaf y clwb ar 2 Tachwedd am 7.30yh yn yr un lleoliad pan groesawir Arwel Jones, Ciliau Aeron, i ddatgelu ‘Dirgelion Bro’.

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]