Bydd Tafwyl yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C am y tro cyntaf eleni, wrth i ŵyl Gymraeg y brifddinas symud i leoliad newydd.

Bydd y digwyddiad ar 15-16 Gorffennaf yn cael ei gynnal ar gaeau Parc Bute.

Mae’r lleoliad newydd yn caniatáu gofod am fwy o adloniant a mwy o gynulleidfa.

Ymysg yr artistiaid sy’n perfformio mae Bwncath, Lloyd a Dom, Sage Todz, Tara Bandito, Eädyth, Band Pres Llareggub, Hana Lili, Dafydd Iwan a Cowbois Rhos Botwnnog.

Huw Stephens, Lloyd Lewis a Tara Bethan fydd yn llywio’r cyfan wrth gyflwyno holl amrywiaeth Tafwyl a sgwrsio gefn llwyfan gyda rhai o’r artistiaid. 

Caiff nifer o’r perfformiadau eu ffrydio’n fyw i S4C Clic, BBC iPlayer, YouTube a Facebook S4C o 13:00 ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Bydd modd gwylio ar eich ffôn, tabled a theledu clyfar.

Dilynwch @LwpS4C ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau byw, cynnwys ecsgliwsif a pherfformiadau ar YouTube o’r prif lwyfan ac o’r ‘Sgubor - llwyfan newydd S4C Lŵp.

Eleni, am y tro cyntaf, bydd modd gwylio’r ŵyl yn fyw ar nos Sadwrn rhwng 20:00-22:00 ar S4C, pan fydd cyfle i fwynhau Bwncath yn perfformio eu set cyfan.

Bydd Tara Bethan hefyd yn perfformio ar y prif lwyfan yn Tafwyl eleni fel Tara Bandito, ac yn canu gyda’r grŵp Ynys a Band Pres Llareggub. 

“Job cynta’ fi yn Tafwyl oedd cyflwyno o Babell yr Ysgolion, a’r bore wedyn o’n i’n gwneud sesiwn ioga” meddai Tara. “Rŵan dw i’n cyflwyno a pherfformio felly mae fatha bo’ fi wedi cael dyrchafiad bach bob blwyddyn. Dw i’n teimlo bo fi wedi tyfu fyny efo Tafwyl.”

Dim ond ers blwyddyn a hanner y dechreuodd hi ysgrifennu caneuon fel Tara Bandito, gan ryddhau ei halbwm gyntaf ym mis Ionawr eleni.

Yn ôl Tara mae cael cyfle i berfformio yn Tafwyl yn gyfle anferth.

“Ro’n i’n arfer gweld bandiau ar y prif lwyfan a meddwl fyswn i wrth fy modd yn perfformio yno ond ar y pryd roedd yn teimlo fel breuddwyd oedd bron yn rhy bell i ffwrdd. 

“Na’i fyth anghofio cyflwyno efo Huw Stephens yn 2021 pan oedd y gynulleidfa yn gorfod bod ar fyrddau o chwech, ac eistedd dwy fetr i ffwrdd o’i gilydd [oherwydd rheolau Covid]. 

“Ro’n i mor emosiynol yn gweld y crowd yn dod mewn. Roedd Ani Glass wedi perfformio Mirores efo string quartet a wnes i ddechrau beichio crio achos oeddan ni ddim yn gwybod os oeddan ni byth yn mynd i gael gwneud rhywbeth fel hyn eto. 

“A dwy flynedd yn ddiweddarach ac mae genna’i slot anhygoel, yn canu caneuon fi ac yn perfformio efo Band Pres Llareggub,” meddai.

Mae Lloyd Lewis hefyd yn edrych ymlaen at berfformio a chyflwyno: “Es i i Tafwyl am y tro cyntaf y llynedd pan ro’n i’n perfformio gyda Dom a Sage Todz, ac roedd o’n brofiad ffantastig. Roedd yr awyrgylch yn wych, ac roedd hi mor braf gweld y gymuned Gymraeg yn ne Cymru yn dathlu’r Gymraeg yn y brifddinas.

“Dwi’n blest ofnadwy i gael y cyfle i gyflwyno o’r ŵyl eleni,’ dwi’n gwybod pa mor fawr yw’r achlysur ac mae’n fraint enfawr.”

Mae Huw Stephens hefyd yn edrych ymlaen at Tafwyl: “Mae Tafwyl bob tro yn lot o hwyl, gydag awyrgylch braf yn dathlu’r Gymraeg yn y brifddinas.

“Mae Caerdydd yn ddinas sy’n tyfu, gyda’r Gymraeg yn rhan bwysig o ddiwylliant a bywyd bod dydd y ddinas, ac mae Tafwyl yn benwythnos i ddathlu hyn.

“Fi’n edrych mlaen at fwynhau sets o gerddoriaeth o bob math, a mwynhau Tafwyl trwy’r penwythnos.”

Tafwyl Nos Sadwrn, 15 Gorffennaf, 20.00                            Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill Cynhyrchiad Orchard ar gyfer S4C