Mae digwyddiadau di-ri ar waith yng Ngheredigion i ddathlu’r Gymraeg ar drothwy Diwrnod Shwmae Su’mae a gynhelir ar 15 Hydref. Nod y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i ni gyd – hyd yn oed os ydym yn siaradwyr rhugl, yn ddysgwyr neu’n swil ein Cymraeg.

Gig, Taith a Sengl Newydd

I ddathlu penwythnos Shwmae Su’mae, bydd Cered – Menter Iaith Ceredigion yn hyrwyddo nifer o ddigwyddiadau.

Cynhelir gig HMS Morris a Ffenest yn Bar y Seler, Aberteifi nos Sadwrn 14 Hydref.

Ar ddydd Sul, 15 Hydref bydd taith Ar Gered yn parhau o gwmpas coedwig Grogwynion ger Llanafan.

Dyma gyfle i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ddod ynghyd i ymarfer eu sgiliau iaith wrth grwydro harddwch byd natur.

Yna, ar 16 Hydref, bydd sengl newydd yn cael ei rhyddhau gan Iwcadwli, sef cerddorfa ukulele Gymraeg Aberystwyth sy’n cael ei chynnal gan Cered.

Enw’r sengl yw Eneidiau Hoff Cytûn ac mae’n dathlu pen-blwydd y grŵp yn bump oed.

Ffeiriau Iaith Ceredigion

Yn ddiweddar, cynhaliwyd cyfres o ffeiriau iaith gan dîm Cardi Iaith Cyngor Sir Ceredigion i hyrwyddo’r Gymraeg ymhlith disgyblion cynradd ac uwchradd y sir, gan feithrin eu hyder i siarad Cymraeg.

Ymwelodd y ffeiriau iaith â’r saith ysgol uwchradd lle cynhaliwyd gweithdai i’r disgyblion gan y rapiwr Mr Phormula, y cyflwynydd Ameer Davies Rana, y DJ Gwion ap Iago, yr arlunydd Sion Tomos Owen, Rae Carpenter o Ffit Cymru a’r goemdïwraig Mel Owen.

Roedd y ffeiriau yn gyfle gwych i gyflwyno’r Gymraeg mewn ffordd hwyliog a chŵl gan ddangos ei bod yn fwy na iaith ystafell ddosbarth.

Siaradwyr Cymraeg newydd

Mae Diwrnod Shwmae Su’mae hefyd yn gyfle i ddathlu ymdrechion caled holl staff y cyngor sy’n astudio’r rhaglen Cymraeg Gwaith. Ar gyfer 2023-24, cynigir dosbarthiadau ar bob lefel, o lefel Mynediad i lefel Uwch 2, gyda chyfle i sefyll arholiadau er mwyn ennill cymhwyster Cymraeg fel rhan o’u hastudiaethau. Trefnir hefyd gyfres o ddigwyddiadau diwylliannol i gefnogi’r dysgu, o glybiau sgwrs wythnosol i ddigwyddiadau tymhorol cyffrous.

Yn ddiweddar, daeth clod mawr i un o athrawon a gyflogir gan Gyngor Sir Ceredigion, sef Tom Trevarthen a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2023.

Mae Tom yn athro Saesneg yn Ysgol Henry Richard, Tregaron.

Dysgodd Gymraeg ar ôl symud i Aberystwyth o Hartford yn Lloegr i astudio yn y brifysgol a dilyn gyrfa fel athro yn un o ysgolion y sir.

‘Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb’

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies (yn y llun), Aelod Cabinet Ceredigion â chyfrifoldeb am Ddiwylliant: “Mae storïau unigolion fel Tom yn profi bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, a rydyn ni’n dathlu camp ac uchelgais pob siaradwr/aig Cymraeg newydd yn y sir.

“Mae’n dda gweld cynifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar hyd a lled y sir, o’r ffeiriau iaith i’r teithiau cerdded er mwyn annog pobl o bob oed a chefndir i ymarfer eu Cymraeg – waeth beth fo’u gallu yn yr iaith.Os ydych yn siaradwyr Cymraeg newydd neu’n dechrau arni’n unig – rhowch gynnig arni.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael trwy eich Menter Iaith leol, ewch i wefan Cered: cered.cymru neu dilynwch yr hwyl ar Facebook, Instagram ac X (Twitter); a chofiwch ddilyn @Cardi Iaith ar Facebook hefyd i weld hynt a helynt disgyblion y sir wrth iddynt fwynhau a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.