Cynhalwyd dathliad Gŵyl Dewi Tregaron prynhawn Gwener, 1 Fawrth yng nghwmni Ysgol Henry Richard.

Cychwynnodd y Parêd o’r ysgol lawr trwy’r dref tuag at y Neuadd Goffa lle roedd y Pictôns yn ein croesawi.

Croesawyd pawb gan Cadeirydd y Cyngor Tref, Cyng Arwel Jones a chafwyd eitemau gan ddisgyblion Ysgol Henry Richard.

Eleni mae Cyngor Tref Tregaron wedi lansio gwobr newydd sbon i gydnabod cyfraniad gwirfoddol lleol.

Bwriad y wobr yw dathlu a diolch i wirfoddolwr sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i ardal Tregaron.

Dywedodd llefarydd am y cyngor tref: "Rydym wedi derbyn sawl enwebiad am fobl sydd wedi gweithio’n ddiwyd a thawel er lles yr ardal a hynny mewn mewn meysydd tebyg i chwaraeon, cymuned, amaeth, plant, pobl ifanc, pobl hŷn neu unrhyw faes arall . Mae yna gymaint o bobl sy’n gwneud gwaith gwych yn y gymuned a hynny heb unrhyw gydnabyddiaeth o gwbl, felly dyma gyfle i gydnabod ymrwymiad un o sêr yr ardal.

"I fod yn ddilys am y wobr roedd rhaid i’r unigolyn a enwebyr fyw ym mhlwyf etholiadol Tregaron; fod dros 18 mlwydd oed ac fod wedi gwenud gwaith gwirfoddol sy’n berthnasol i’r dre.

"Penodwyd panel annibynnol y tu allan i’r cyngor tref i benderfynu ar yr enillydd.

"Hoffai’r panel longyfarch pawb a enwebwyd a chydnabod y gwaith a wneir gan yr holl unigolion a sefydliadau lleol. Mae eu hymroddiad a’u gwaith diflino yn mynd yn bell ac yn gwneud Tregaron yn le arbennig.

"Mae David John, neu DJ fel yr ydym ni yn ei adnabod, wedi bod yn gweithio’n ddiwyd yn y gymuned ers blynyddoedd lawer. Person gweithgar a chymwynasgar.

"Gweithio’n galed i wneud Rasys Trotian Tregaron yn llwyddiant.

"Aelod brwdfrydig o’r Clwb Bowlio – rhedeg y gynghrair a chynorthwyo’n gyson.

Gofalwr y Neuadd Goffa. Bu’n gwasanaethu ar y cyngor tref am 13 mlynedd.

"Mae’n barod ei gymwynas ag unrhyw fudiad ac i’w weld mewn digwyddiadau drwy stiwardio, trefnu trafnidiaeth, neu unrhyw swydd bydd y trefnwyr am iddo wneud.

"Ef sydd yn rhedeg y Syndicad Olew lleol ac mae hefyd yn casglu caniau i’w ail gylchu cyn rhoi’r arian i elusennau / grwpiau lleol.

"Arwr lleol heb os.

"Mae’r enghreifftiau yma yn dangos ei ymroddiad tuag at y gymuned. Mae’n haeddiannol o dderbyn y wobr.

"Llongyfarchiadau mawr David John!

"Talwyd pleidlais o ddiolch gan Cyng Catherine Hughes a gorffenwyd trwy gyd ganu ein anthem cenedlaethol.

"Diolch i bawb am helpu a chefnogi y digwyddiad."