Mae’r ymdrechion codi arian drigolion Ceredigion wedi cael eu canmol wrth i’r sir edrych ymlaen at groesawu’r brifwyl.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei gynnal yn Nhregaron o ddydd Sadwrn 30 Gorffennaf, ac mae’r paratoadau ar y maes ar waith.
Elin Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, yn diolch am yr ymdrech wirfoddol eithriadol ar drothwy’r Eisteddfod “Ddwy flynedd yn ddiweddarach na’r disgwyl, mae’r Eisteddfod Genedlaethol ar fin dychwelyd i Geredigion, a hynny ddeng mlynedd ar hugain ers ei hymweliad diwethaf â’r sir.
“Bydd y gatiau’n agor yn y caeau gerllaw Tregaron ddydd Sadwrn nesaf.
“Mae wedi bod yn ymdrech wirfoddol arwrol ac mae’r Cardis wedi mynd y filltir ychwanegol ac wedi torri record wrth gasglu o gwmpas £470,000 ar gyfer y digwyddiad. Diolch i bawb sydd wedi trefnu digwyddiadau codi arian ac wedi cyfrannu at yr achos.
“Mae hefyd yn bleser teithio o gwmpas y sir a gweld yr holl faneri ac arwyddion sy’n adlewyrchu croeso twymgalon y Cardi i ymwelwyr â’r Eisteddfod.

“Rwy’n gobeithio y bydd ymwelwyr â Cheredigion yr wythnos nesaf yn achub ar y cyfle i deithio i bob cwr o’r sir gan fod yr ardal gyfan wedi cyfrannu at yr ymdrech fawr.
“Dioch o galon i bawb.
“Y cyfan sydd ar ôl yw i bob un ohonom anelu am Dregaron, p’un ai ydych wedi mynychu Eisteddfod o’r blaen neu’n troi i mewn am y tro cyntaf.
“Bydd gwledd yn eich aros gyda rhywbeth at ddant pawb. Gallaf warantu y bydd y Cardis yn cynnal Eisteddfod heb ei hail.”




.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.