I ddathlu cyhoeddi Cyfres Celt y Ci, ar ddydd Gwener, 29 Medi, aeth yr awdures Rhiannon Wyn Salisbury a’r arlunydd Elin Vaughan Crowley, i Ysgol Llanilar ac Ysgol Gymraeg Aberystwyth i gynnal gweithdai hwyliog gyda disgyblion y dosbarthiadau derbyn.

Darllenodd Rhiannon, awdures y gyfres, y stori gyntaf, sef Celt y Ci, ac yna cafwyd sesiwn arlunio gydag artist y gyfres, Elin.

Cafwyd croeso mawr gan y ddwy ysgol.

Rhiannon Wyn Salisbury ac Elin Vaughan Crowley gyda phlant Ysgol Llanilar
Rhiannon Wyn Salisbury ac Elin Vaughan Crowley gyda phlant Ysgol Llanilar (Submitted)

Meddai Rhiannon, sydd hefyd yn gweithio fel athrawes cefnogi’r Gymraeg i sir Ceredigion: “Rydw i, Elin a’r Lolfa yn ddiolchgar iawn i’r ddwy ysgol am ein gadael ni i ddathlu cyhoeddiad ein cyfres newydd gyda’r plant!

“Roedd yn wych gweithio gyda’r plant a gweld eu hymateb i’r llyfrau.”

Mae’r gyfres newydd wedi ei dylunio’n arbennig i ddarllenwyr newydd, ac mae yna eirfa Saesneg yng nghefn y llyfr i helpu rhieni di-Gymraeg. Mae’r gyfres wedi ei gosod ar fferm ddychmygol yng nghefn gwlad Cymru.

Cyhoeddir y gyfres, o bump llyfr, gan Wasg Y Lolfa gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mae Cyfres Celt y Ci gan Rhiannon Wyn Salisbury ac Elin Vaughan Crowley ar gael nawr.