MAE staff a chyfarwyddwyr Meithrinfa Seren Fach, Brithdir, wrth eu boddau gyda chanlyniad arolwg ar y ddarpariaeth y feithrinfa gan Estyn.

Yn dilyn ymweliad arolygwyr Estyn ym Mawrth, barnwyd bod perfformiad presennol y feithrinfa yn dda a rhagolygon gwella’r lleoliad yn rhagorol.

Dywed yr Arolygwyr bod y feithrinfa yn adlewyrchu ethos y Cyfnod Sylfaen yn llwyddiannus dros ben ac yn darparu cwricwlwm eang a chytbwys drwy gynnig amrywiaeth helaeth o weithgareddau i’r plant. Mae gan yr ymarferwyr ym Meithrinfa Seren Fach ddisgwyliadau uchel o’r plant ac ohonynt eu hunain. Maent yn rhoi cyfleoedd i’r plant i ddatblygu eu medrau, cyflwyno syniadau a datrys problemau newydd yn effeithiol trwy eu hannog i ystyried eu gwaith er mwyn ceisio ei wella.

Dywedwyd bod pob ymarferydd yn llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig am gyflawniadau’r plant.

Yn yr adroddiad nodir bod Meithrinfa Seren Fach yn gymuned hapus a gofalgar ac mae’r ymarferwyr yn sicrhau bod plant yn teimlo’n ddiogel. Mae ymarferwyr yn groesawgar, yn parchu’r plant fel unigolion, ac yn sensitif i’w hanghenion. Oherwydd hyn, mae plant yn fodlon iawn yng nghwmni oedolion ac maent yn barod i ofyn am gymorth a chefnogaeth pan fo angen. Caiff pob plentyn ei drin yn deg a darperir cyfleoedd cyfartal iddynt ddatblygu’n gymdeithasol ac yn emosiynol. Caiff y plant eu hannog i ofalu amdanynt eu hunain a’u ffrindiau ac i helpu ei gilydd.

Barnwyd bod amgylchedd dysgu’r feithrinfa yn rhagorol ac mae’r plant yn cael mynediad cyson, mewn glaw neu hindda, i ardal allanol ragorol. Mae’r adnodd hwn yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol iawn i ddatblygu medrau creadigol a chorfforol y plant.

Am y stori lawn, gwelwch bapurau Meirionnydd neu Arfon/Dwyfor wythnos yma, ar werth nawr