Yn ddiweddar, ymwelodd tri aelod o staff Ymgynghoriaeth Gwynedd Consulting (YGC) Ysgol Gynradd Abererch i son am eu gwaith o ddydd i ddydd, yn enwedig eu rôl yn y sir.

Bellach mae YGC yn gyfrifol am brosiectau dylunio isadeiledd a thrafnidiaeth, dylunio adeiladau ac arolygu eiddo a prosiectau dwr ac arfordirol i awdurdodau lleol, cenedlaethol a chwmnïau preifat.

Yn ystod yr ymweliad â’r ysgol adroddwyd hanes YGC a’u rhan nhw yng ngwaith atgyweirio Bont Bodfel – y gwaith sydd wedi’i wneud yn barod a beth fydd yn digwydd nesaf – ar ol i gar ddifrodi’r bont mewn gwrthdrawiad.

Y tri aelod o staff a ymwelodd a’r ysgol oedd Robin Owen, Robat Williams a Laura Stewert-Jones.