CAWSOM noson hwylus yn Eisteddfod Gadeiriol Bryngwenith ar nos Wener, 1 Ebrill.Cadeirydd y noson oedd Elgan a Myfanwy Davies, Porthycrwydryn, Capel Newydd, Sir Benfro. Arweinyddion y noson oedd y Parch Carys Ann, Gwenda Evans a Maldwyn Lewis. Yng ngofal y cadeirio oedd Dai Rees Davies a Gwyndaf James oedd yn canu C?n y Cadeirio. Beirniaid y noson oedd: Cerdd - Trefor Puw, Trefenter; Llên a Llefaru - Anwen James, Llangeitho. Yng ngofal yr Arlunio oedd Alun Williams, Llangoedmor a’r gyfei-lyddes oedd Lyn James, Castell Newydd Emlyn Y trysorydd yw Elsie Evans a’r ysgrifennydd yw Anne Lewis.
ENILLWYR
Cerddoriaeth Unawd dan 6 oed: Gwennan Lloyd Owen, Llanllwni; Unawd 6 - 8 oed: Megan Wyn Morris, Talyllychau; Unawd 8 - 10 oed, agored: Alwenna Mair Owen, Llanllwni; Unawd 10 - 12 oed: Zara Evans, Tregaron; Unawd Cyfyngedig i blant ysgolion cynradd ac sydd â chysylltiad â Gofalaeth y Parch Carys Ann: Lisa Mair Hamilton, Castell Newydd Emlyn; Parti unsain dan 16 oed: Lisa Mair Hamilton, Elin Fflur Davies a Sara Mai Davies; Unawd 12 - 16 oed: Megan Teleri Davies, Llanarth; Cân Werin dan 16 oed: Alwenna Mair Owen, Llanllwni; Unawd Cerdd Dant dan 16: Megan Teleri Davies, Llanarth; Canu Emyn dan 16 oed: Alwenna Mair Owen, Llanllwni; Unawd ar unrhyw offeryn cerdd i blant ysgolion Cynradd ac i blant ysgolion Uwchradd neu Goleg a enwyd yn rhif 5: Megan Teleri Davies, Llanarth; Unawd Gymraeg allan o unrhyw sioe gerdd: Megan Teleri Davies, Llanarth.Llefaru Llefaru dan 6 oed: Trevor Tristan Bryn, Llanpumsaint; Llefaru 6 - 8: Fflur Morgan, Drefach, Llanybydder; Llefaru 8 - 10 oed: Alwenna Mair Owen, Llanllwni; Llefaru 10 -12 oed: Zara Evans, Tregaron; Llefaru cyfyngedig i blant a enwyd yn rhif 5, 4 - 7 oed: Elin Fflur Davies, Penrhiwpal; Parti Cyd-adrodd dros 16 oed: Elin Fflur Davies, Sara Mai Davies, Lisa Mair Hamilton a Megan Teleri Davies; Darllen darn o’r Ysgrythur, o dan 16 oed: Megan Teleri Davies, Llanarth; Dros 16: Maria Evans, Alltwalis; Her Adroddiad agored: Maria Evans, o Alltwalis.Llenyddiaeth Cystadleuaeth y Gadair, cerdd ar y testun ‘Cymylau’: Hannah M Robert, Caerdydd; C?n Ddigri, testun ‘Yr Ardd’: Mary B Morgan, Llanrhystud; Brawddeg o’r gair ‘Cadwyn’: Carys Briddon, Tre’r-ddôl; Limrig: Donald Morgan, Llanrhystud; Neges tecst ar y llythyren ‘M’: Mary B Morgan, Llanrhystud; Cystadleuaeth i blant mewn ysgolion cynradd, Bl 2 ac iau arlunio ‘Fy hoff degan’: Joe Pritchard, Ysgol Aberbanc; Cystadleuaeth i blant mewn ysgolion cynradd, Bl 3 - 6 arlunio ‘Rhosyn Coch’: Ruth Bramley, Ysgol Aberban