Cynhelir Eisteddfod Gadeiriol Chwilog yn y neuadd ddydd Sadwrn, 23 Ionawr. Y beirniaid - Cerdd a Cherdd Dant: Gareth Wyn Thomas, Capel Hendre, Rhydaman; Llefaru a Barddoniaeth: Y Prifardd Tudur Dylan Jones, Caerfyrddin; Llenyddiaeth: Menna Baines, Bangor; Arlunio: Therese Urbanska, Rhydyclafdy; Cyfeilyddion: Prynhawn, Catrin Alwen Jones, Chwilog; Hwyr, Dafydd Lloyd Jones, Bae Colwyn; Llywydd: Dafydd Alun Jones, Llanbadarn Fawr; Arweinyddion, Prynhawn: Bethan Llwyd a Heledd Williams, Hwyr: Rhian Williams a Linda Williams.Am fanylion pellach, cysyllter â’r ysgrifennydd Gwyn Parry Williams (01766 810717).Wythnos ddiwethaf cyflwynwyd Y Gadair i ysgrifennydd yr eisteddfod, Gwyn Parry Williams (chwith) gan John Tolliott (dde), Chwilog, oedd am y drydedd flwyddyn yn olynol wedi dylunio a chynhyrchu’r Gadair i Eisteddfod Gadeiriol Chwilog.
Eisteddfod Gadeiriol Chwilog


Gwyn Parry Williams (chwith) gyda John Tolliott (dde)





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.