CYNHALIWYD yr eisteddfod ar nos Wener, 26 Chwefror, yn Neuadd Pantyf-edwen, Pontrhydfendigaid.Ein beirniad llên a llefaru oedd Eilyr Pryse, a’r beirniad cerdd oedd Dr Rhidian Griffiths, y ddau o Aberystwyth; a’r Parch Lewis Wyn Daniel wedi beirniadu’r cystadlaethau llawysgrifen ymlaen llaw. Yn anffodus methodd y Parch Daniel ymuno gyda ni yn yr eisteddfod eleni oherwydd anhwylder, ac estynnwn wellhad llwyr a buan iddo.Ein cyfeilyddes eleni oedd Lona Phil-lips, Abermagwr. Yr arweinyddion oedd Annwen Davies, Meinir Jenkins, Dafydd Jones ac Efan Williams – diolch iddynt am sicrhau eisteddfod lwyddiannus ar-all.Dymunwn hefyd ddiolch i bawb a ddaeth i’n cefnogi boed yn y cystadlaethau llwyfan neu ysgrifenedig, a diolch i bawb a fu’n gysylltiedig ag hyfforddi’r ymgeiswyr.Cyflwynwyd llywyddion y noson gan Annwen Davies, sef Evan ac Eirlys Jones, Maesymeillion (Bronwenllwyd, Swyddffynnon gynt). Roedd y ddau wedi rhoi gwasanaeth ffyddlon i’r eisteddfod hon am flynyd-doedd maith, Evan yn cyflawni dros 50 mlynedd fel trysorydd ac Eirlys yn ys-grifenyddes am 15 mlynedd. Cafwyd araith gan Eirlys a chyflwyn-wyd blodau iddi gan ysgrifenyddes yr eisteddfod, Annwen Isaac. Dymuna’r pwyllgor ddiolch i’r ddau am eu rhodd haelionus i gronfa’r eisteddfod.Bardd y Gadair eleni oedd Gaenor Mai Jones, Pentre’r Eglwys, Rhondda Cynon Tâf (yn enedigol o Aberystwyth); der-byniodd gadair fechan am gyfansoddi telyneg ar y testun Cwlwm o dan y ffu-genw Hafod.

Roedd y Seremoni Cadeirio yng ngofal Meinir Jenkins, Ynysforgan; cyrchwyd y bardd buddugol i’r llwyfan gan Annwen Davies ac Annwen Isaac, cyflwynwyd cadair (o waith Jeff Jones, Llanafan) a rhodd ariannol a oedd yn rhoddedig gan yr eisteddfod i Gaenor. Gwynne Jones, Llanafan ganodd cân y cadeirio. Cyfarchwyd y bardd buddugol gan Ann Morgan a Dafydd Jones.Diolch i Annwen Davies, Cynhawdre, am addurno’r neuadd yn hardd yn ôl yr arfer ac i wragedd y capel a’r gymuned am gynorthwyo gyda’r lluniaeth, ac i’r dynion wrth y drysau.Dyma’r canlyniadau:Unawd dan 6 oed: Mari Williams, Tregaron. Unawd dan 9 oed: Elin Williams, Tregaron. Unawd dan 12 oed: Catrin Haf, Aberystwyth. Unawd dan 15 oed: Guto Lewis, Llanon. Unawd dan 18 oed: Guto Lewis Llanon.Parti Canu: Ysgol Gynradd, Parti Deulais, Bont; Agored, Bois y Rhedyn, Llanddewi Brefi.Ensemble Lleisiol 10 i 26 oed (Eisteddfodau Cymru 2015-2016): Bois y Rhedyn, Llanddewi Brefi.Unawd ar unrhyw offeryn cerdd: Cynradd, Harri Gwyn, Pontarfynach; Uwchradd, Nest Jenkins, Lledrod.Canu Emyn dros 50 oed: Gwynne Jones, Llanafan.Alaw Werin, agored: John Griffiths, Lledrod.Unawd allan o unrhyw sioe gerdd: Ffion Williams, Lledrod. Her Unawd: Efan Williams, Lledrod. Unawd Gym-raeg: Efan Williams, Lledrod.Llefaru dan 6 oed: Mari Williams, Tre-garon; Llefaru dan 9 oed: Ifan Williams, Tregaron; Parti Llefaru Ysgol Gynradd: Ysgol Bont.Llefaru dan 12 oed: Cari Davies, Bont. Llefaru dan 15 oed: Ffion Williams, Lledrod. Llefaru dan 18 oed: Nest Jenkins, Lledrod. Llefaru dan 30 oed: Nest Jenkins, Lledrod.Darllen darn o’r Ysgrythur: Nest Jenkins, Lledrod. Her Adroddiad: Nest Jenkins, Lledrod.Cystadleuaeth y Gadair: Gaenor Mai Jones, Rhondda Cynon Tâf.Brawddeg: Megan Richards, Aberaeron. Limrig: Gwyn Hughes, Ffair Rhos. Brysneges ‘D’: Carys Briddon, Tre’r-ddôl.Adran Llawysgrifen: Plant Ysgol Uwchradd, emyn 372: Callum Cookson, Ysgol Henry Richard. Plant dan 12 oed, agored, emyn 852: Glesni Morris, Llanddeiniol. Agored, unrhyw emyn: Jean Williams, Bont.