Ar ôl bwlch o dair blynedd oherwydd Covid cynhaliwyd yr eisteddfod eto pan gafwyd cystadlu brwd a safonol mewn awyrgylch hwyliog a chartrefol nos Wener a Sadwrn, 21 a 22 Ebrill.

Eleni am y tro cyntaf, gan fod y ddwy ysgol wedi eu ffederaleiddio cafwyd disgyblion o Ysgol Penllwyn yn ogystal â Penrhyncoch a chafwyd neuadd lawn gydol y sesiwn.

Roedd yn braf gweld cyfeillion o’r Wcrain yn y gynulleidfa ar y ddeuddydd.

Gwelwyd cystadleuwyr o ardal ehangach ar y pnawn Sadwrn yn yr adran cynradd. Er mai prin oedd y nifer cafwyd cystadleuwyr ar bron pob cystadleuaeth yn ystod y noson.

Y beirniaid eleni oedd: nos Wener (lleol), cerdd, Bethan Ruth, Machynlleth; llefaru, Carwyn Hawkins, Caerdydd. Dydd Sadwrn (agored): cerdd, Arfon Williams, Cwmtirmynach; llefaru, Ian Lloyd Hughes, y Bala; a llên, Emyr Lewis, Aberystwyth. Cyfeiliwyd gan Lona Phillips, Abermagwr.

Yr arweinyddion oedd Catryn Lawrence a Manon Reynolds (dydd Gwener), Gregory Vearey-Roberts, Gwenno Morris, Llifon Ellis, Sara James a Sara Gibson.

Y llywyddion oedd Mark Roberts, Caerdydd (Matthew yn Pobol y Cwm), nos Wener; Gill Saunders Jones, Llandre, pnawn Sadwrn; a Lowri Guy, Caerdydd, nos Sadwrn.

Swyddogion y pwyllgor yw cadeirydd, Marianne Jones-Powell; ysgrifennydd, Ceris Gruffudd; is-ysgrifennydd, Llio Adams; trysoryddion, Eleri James ac Elin Haf Williams.

Yn anffodus wrth baratoi y neuadd fore Gwener cafodd y cadeirydd ddamwain olygodd ei bod yn Ysbyty Bronglais yn disgwyl triniaeth – gyrrwn ein dymuniadau gorau i Marianne Jones Powell.

Yn y cyfarfod nos tynnwyd sylw at ddarllenfa hardd gan y saer crefftus ym Mhenrhyhncoch – Keith Morris (oedd hefyd wedi gwneud y Gadair) gomisiynwyd gan Bwyllgor y Neuadd er cof am y cymwynaswr mawr Dei Rees Morgan fu farw yn 2019.

Roedd yn gadeirydd Neuadd y Penrhyn, yn eisteddfodwr brwd oedd yn cystadlu’n gyson ar yr adroddiad digri ac yn arweinydd yn Eisteddfod Gadeiriol Penrhyncoch.

Canlyniadau (DC = dim cystadlu)

Nos Wener: Unawd Meithrin, DC; Llefaru Meithrin, DC; Unawd Dosbarth Derbyn, Eve Thomas; Llefaru Dosbarth Derbyn, Oscar Makaruk; Unawd Bl 1 a 2, Isla Dimmack; Llefaru Bl 1 a 2, Sion Gibson; Unawd Bl 3 a 4, Kaeden Cornell; Llefaru Bl 3 a 4, Iona Parry; Unawd Bl 5 a 6, Twm Williams; Llefaru Bl 5 a 6, Jac Jenkins; Unawd offeryn cerdd (cynradd), Kai Jacobek; Unawd Ysgol Uwchradd, DC; Unawd Offeryn Cerdd Ysgol Uwchradd, DC; Llefaru Ysgol Uwchradd, DC; Parti Canu, Stewi a Rheidol; Parti Llefaru, Stewi a Rheidol.

Dydd Sadwrn: Unawd Dosbarth Derbyn ac iau, DC; Llefaru Dosbarth Derbyn ac iau, DC; Unawd Bl 1 a 2, Sion Gibson, Penrhyncoch; Llefaru Bl 1 a 2, Llew Salisbury, Aberystwyth; Unawd Bl 3 a 4, Nanw Melangell, Cwrtnewydd; Llefaru Bl 3 a 4, Elsa Aneurin, Llanfihangel-y-creuddyn; Unawd Bl 5 a 6, Mirain Evans, Llandre; Llefaru Bl 5 a 6, Moi Schiavone, Aberystwyth; Unawd Ysgol Uwchradd, Ioan Mabbutt, Aberystwyth; Unawd Offeryn Cerdd dan 18 oed, Wil Guy, Caerdydd; Llefaru Ysgol Uwchradd, Elan Mabbutt, Aberystwyth; Unawd Alaw Werin dan 18 oed, Ioan Mabbutt, Aberystwyth; Unawd Cerdd Dant dan 18 oed, Meia Elin, Llanfihangel-y-creuddyn; Unawd 18 i 30 oed, Beca Williams, Rhydyfelin; Llefaru 18 i 30 oed, DC; Unawd Sioe Gerdd dan 30 oed, Beca Williams, Rhydyfelin; Canu Emyn i rai dros 60 oed, Gwyn Jones, Llanafan; Alaw Werin (Agored), Greg Roberts, Penrhyncoch; Llefaru i Ddysgwyr, DC; Sgen Ti Dalent, Gwen Gibson ac Amelia Welsby, Penrhyncoch; Unawd Gymraeg, Barry Powell, Llanfihangel-y-creuddyn; Llefaru darn Digri, DC; Her adroddiad, Maria Evans, Caerfyrddin; Ensemble, Bois y crysa Siec; Parti, Mamau Penrhyncoch a Penllwyn; Her Unawd, Efan Williams, Lledrod; Parti Llefaru, Drudwns Aber; Côr, DC.

Llenyddiaeth: Cadair, Morgan Owen, Rhydyfelin; Telyneg, Vernon Jones, Bow Street; Cerdd Benrhydd, Y Parch Judith Morris, Penrhyn-coch; Englyn, Vernon Jones, Bow Street; Brawddeg, Aled Evans, Trisant; Erthygl, Carys Briddon, Tre’r-ddôl; Stori Fer, Anwen Pierce, Bow Street; Adolygiad, DC; Limrig, Myfanwy Roberts, Llanrwst; Tlws yr Ifanc, Elin Pierce Williams, Bow Street.

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]