Cynhaliwyd noson wobrwyo cystadleuaeth silwair gan Gymdeithas Tir Glas De Arfon.

Gan ystyried y tywydd crasboeth a gafwyd yn ystod haf 2022 llwyddodd aelodau’r gymdeithas i gynhyrchu silwair safonol iawn. Roedd ei gadw rhag mynd yn rhy sych yn sialens i bawb.

Cafwyd cymorth i gasglu’r holl samplau gan gwmni W H Evans Melin Llecheiddior a chymorth pellach maes o law i ddadansoddi ansawdd y silwair gan gwmni For Farmers. Mae’r gymdeithas yn ddiolchgar iawn i’r ddau gwmni am eu cefnogaeth.

Yr enillydd ar gyfer silwair y clamp llaeth oedd Owain Williams, Gwyndy, Tudweiliog, gyda fferm Cae’r Morfa, Pontllyfni yn ail a Thy’n Rhos, Saron yn drydydd.

Yn fuddugol gyda silwair y pit biff roedd Thomas Ellis Jones, Goetre, Efailnewydd gyda ffermydd Pensarn, Efailnewydd a Llannerch Isa’, Llannor yn ail ac yn drydydd.

Yr enillydd gyda’r byrnau mawr oedd Gwyndaf Jones Cae’r Graig, Efailnewydd gyda ‘Rorsedd, Pencaenewydd a Goetre Efailnewydd yn gydradd ail.

Hoffai’r gymdeithas ddiolch i bawb a gefnogodd drwy gydol y tymor. Bydd egwyl nawr dros y gwanwyn cyn ail gychwyn ddiwedd yr haf nesaf efo rhaglen newydd.