Bydd ail gyfres y ddrama Dal y Mellt i’w weld ar S4C yn 2024.

Vox Pictures sydd yn cynhyrchu’r ddrama ac mae’r tîm wrthi yn ffilmio’r gyfres ar hyn o bryd ym Mangor, Caerdydd a Llundain.

Mae’r gyfres wedi ei seilio ar nofel newydd Iwan ‘Iwcs’ Roberts, Dal Arni sydd yn ddilyniant i’w nofel Dal y Mellt.

Cafodd cyfres gyntaf Dal y Mellt ei werthu i Netflix dan yr enw Rough Cut, y ddrama iaith Gymraeg gyntaf i gael ei dangos ar y gwasanaeth ffrydio.

Mae Gwion Morris Jones yn dychwelyd fel y prif gymeriad, Carbo, tra bod Mici, Gronw, Antonia, Dafydd Aldo, Meri Jên, Cidw, Jiffy a Julia yn ail ymuno ar y siwrnai gyffrous.

Bydd nifer o gymeriadau newydd yn ymddangos y tro yma, gyda Matthew Gravelle yn portreadu Blew.

Dywedodd Gwenllian Gravelle, pennaeth sgriptio S4C: “Ar ôl llwyddiant y gyfres gyntaf ar S4C a Netfix dwi’n hynod o falch i gyhoeddi bydd y criw hoffus yn ôl am antur gyffrous arall flwyddyn nesaf.

“Mae’r stori yn parhau ac mae yna gymeriadau newydd a her newydd yn wynebu’r gang.

“Mae hwn yn gynhyrchiad uchelgeisiol fydd â chynulleidfa yma yng Nghymru ond ein bwriad yw sicrhau fod cynulleidfaoedd rhyngwladol yn gweld y gyfres hefyd.”

Dywedodd Llŷr Morus, pennaeth cynhyrchu Vox Pictures: “Mae Vox Pictures yn falch iawn o fod mewn cynhyrchiad eto gyda S4C ar yr ail gyfres o Dal y Mellt.

“Mae’n wych gallu adeiladu ar lwyddiant y gyfres gyntaf a dod a’r gang o gymeriadau lliwgar nôl at ei gilydd, a gweld y da a’r drwg yn croesi llwybrau.

“Mae heist arall llawn cyffro ar y gweill wrth i’n criw hoffus fynd ar ôl cyfoeth a chariad.”

Bydd y nofel Dal Arni gan Iwan ‘Iwcs’ Roberts, o Drawsfynydd, yn cael ei gyhoeddi gan y Lolfa ddiwedd mis Hydref.