Bydd gweithdy ysgrifennu creadigol gydag Anni Llŷn a Ffair Lyfrau i Rieni ymhlith uchafbwyntiau ‘Amdani’, Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg rithiol, sy’n cael ei chynnal am yr eildro gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Bydd Anni Llŷn yn cynnal gweithdy ysgrifennu creadigol i ddysgwyr nos Iau, 3 Mawrth am 7yh.

Mae’r digwyddiad yn agored i ddysgwyr ar lefel Canolradd + sy’n dymuno rhoi pin ar bapur yng nghwmni’r awdur a’r cyflwynydd adnabyddus.

Nod yr ŵyl rithiol, sy’n digwydd rhwng 28 Chwefror a 4 Mawrth, yw dathlu’r gyfres o lyfrau i ddysgwyr, ‘Amdani’, ac annog dysgwyr i fwynhau defnyddio eu Cymraeg trwy ddarllen ystod o ddeunyddiau, boed yn llyfrau, cylchgronau neu wefannau.

Cafodd yr ŵyl ei chynnal ar raddfa fechan y llynedd, ond mae arlwy swmpus wedi’i threfnu ar gyfer eleni.

Bydd cyfle i rieni sy’n dysgu Cymraeg ddarganfod mwy am yr amrywiaeth o lyfrau Cymraeg bywiog, lliwgar a gafaelgar sy ar gael i’w plant, mewn ffair lyfrau rithiol a gynhelir fel rhan o’r ŵyl. Mae’r uchafbwyntiau eraill yn cynnwys gig gan Robat Arwyn, clwb darllen gyda’r awdur Sarah Reynolds, a sesiwn ioga cadair gyda Laura Karadog a Catrin Jones.

I ddathlu dydd Gŵyl Dewi, bydd y Ganolfan yn cynnal bore coffi yng nghwmni Dysgwr y Flwyddyn, David Thomas. Bydd modd i ddysgwyr sy’n mynychu wneud cyfraniad i elusen meddwl.org a bydd cystadleuaeth ‘Dysgwr y Flwyddyn’ Eisteddfod Ceredigion 2022 yn cael ei lansio.

Yn ychwanegol, bydd y Ganolfan yn cyhoeddi podlediad rhwng Jo Heyde, wnaeth gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth ‘Dysgwr y Flwyddyn’ y llynedd, a’r awdur Caryl Lewis. Bydd straeon newydd sbon i ddysgwyr yn cael eu cyhoeddi gan Pegi Talfryn a Lleucu Roberts, a bydd enwogion yn datgan beth yw eu hoff lyfrau, a pham ar ffurf fideo.

Mae cystadleuaeth ysgrifennu stori hefyd yn cael ei chynnal fel rhan o’r ŵyl, ar y cyd â’r Eisteddfod Genedlaethol, a bydd y straeon buddugol yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr ŵyl.

Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi rhestr ddarllen ar gyfer dysgwyr lefel Uwch a Gloywi yn ystod yr ŵyl.