Yn gynnar ym mis Gorffennaf, daeth dros pump deg aelod o Gôr Cymry Gogledd America i Gymru er mwyn cynnal cyngherddau ar hyd a lled y wlad dros gyfnod o wythnos i ddathlu pen-blwydd y côr yn bump ar hugain oed.
Bu’r côr yn brysur yn diddanu cynulleidfaoedd yn Aberystwyth, Machynlleth, Conwy, Y Fenni a Senedd Cymru, gyda’r daith hefyd yn cyd-daro â lansio llyfr cyntaf sylfaenydd y côr, sef Braids of Song (Y Lolfa).
Ymfudodd Dr Mari Morgan, brodor o Lanelli, i’r Unol Daleithiau yn 1996 er mwyn mynd ar drywydd gyrfa fel cantores glasurol. Mae ei llyfr yn ysgogi rhywun i feddwl am brofiadau Cymry eraill sydd wedi mentro dros y dŵr er mwyn gwireddu eu breuddwydion cerddorol.
Yn ei llyfr, gofynna Mari: “Ydych chi byth yn pendroni am beth sy’n digwydd i rhywun sy’n symud i wlad newydd? Ydyn nhw’n newid? Ydy’r ffordd maen nhw’n canu yn aros yr un fath neu’n cael ei ddylanwadu? Ac os ydynt yn bobl creadigol – beth sy’n digwydd i’w hallbwn artistig?”
Ychwanegodd Mari: “Daeth y syniad o ysgrifennu Braids of Song i mi yn dilyn marwolaeth fy nhad ar 1 Mawrth 2015.
“Ac yntau’n weinidog Anghydffurfiol ac yn ddyn y bobl, gofynnodd ddau gwestiwn i mi yn ystod ei wythnosau diwethaf: ‘Pryd wyt ti’n mynd i ysgrifennu fy stori?’ ‘Pwy wyt ti?’ Braids of Song yw fy ymateb creadigol i’r cwestiynau syml hynny.
“Derbyniais lawysgrif o stori Arianwen fel rhodd yn ewyllys fy nhad. Credaf fod hynny, ochr yn ochr â’m profiadau fel cerddor Cymreig sydd wedi byw yn yr Unol Daleithiau am dros pump ar hugain o flynyddoedd wedi fy arwain i fod yn chwilfrydig ynghylch sut y gall fudo i wlad newydd newid person, sut y mae heriau a chyfleoedd newydd yn cydbwyso gyda synnwyr o golled am bethau cyfarwydd, a sut caiff yr allbwn creadigol ei effeithio yn y broses o gymathu i ddiwylliant newydd.”
Mae sawl llais yn adrodd eu straeon yn y llyfr ar wahân i’r awdur.
Ceir stori y cyfansoddwr carismataidd, Joseph Parry o Ferthyr sy’n llwyfannu opera Gymreig yn Danville, Pennsylvania; yr arweinydd cadarn ac arloesol, Daniel Protheroe o Gwmgiedd sydd bellach wedi ymgartrefu yn Chicago; ynghyd â’r pianydd sy’n perfformio mewn cyngherddau yn rhyngwladol, Marie Novello o Faesteg.
Cynhaliwyd lansiad y llyfr yng Ngaleri Gregynog yn y Llyfrgell Genedlaethol ar y 4ydd o Orffennaf, gyda baner yr Unol Daleithiau yn chwifio uwchlaw’r adeilad. Cafodd cynulleidfa o 200 o bobl gyngerdd gwych hefyd gan y côr, gan glywed cyfansoddiadau newydd gan Eric Jones a Mererid Hopwood, Cefin Roberts ac Einion Dafydd, a Penri Roberts a Linda Gittins am y tro cyntaf.
A hithau wedi’i magu yn Llanelli, cafodd Mari Morgan ei haddysgu ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd; Trinity College of Music, Llundain; ac yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae ganddi radd Cerddoriaeth ynghyd â gradd Ysgrifennu Creadigol.
Ymfudodd i’r Unol Daleithiau yn 1996. Mae’n gantores glasurol uchel ei chlod a chanddi nifer o recordiadau, ac hi sefydlodd Côr Cymry Gogledd America yn ogystal â bod yn arweinydd i’r côr. Mae Dr Morgan bellach yn ddinesydd Americanaidd swyddogol ac yn byw ar lan yr afon Susquehanna yn Pennsylvania, ac mae’n rhannu ei hamser rhwng yr Unol Daleithiau a Chymru.
Mae Braids of Song: Weaving Welsh Music into the American Soul gan Mari Morgan ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).





