Yr wythnos hon cyhoeddir hunangofiant gan un o ffigyrau amlycaf byd gwleidyddiaeth, a’r Cymro a fu’n gweithio San Steffan am y cyfnod hiraf erioed – yr Arglwydd John Morris.

Yn y gyfrol, Cardi yn y Cabinet, mae John Morris yn cyfeirio at ei berthynas gydag arweinwyr y Blaid Lafur, o Hugh Gaitskell i Jeremy Corbyn, gan nodi: “Dros oes hir, ar ôl cychwyn yn ieuanc, deuthum ar draws pob un o brif wleidyddwyr fy mhlaid ac eraill a oedd yn flaenoriaid yn ein galwedigaeth. Yn naturiol roedd rhai yn fwy effeithiol na’r lleill.”

Trwy’i eiriau a’i brofiadau, cawn hanes y Blaid Lafur drwy lygaid Cymro. Mae’n nodi bod “heddwch yn teyrnasu[‘r] blaid pan gyrhaeddais D?’r Cyffredin” er newidiodd hyn yn ystod ei amser yn San Steffan. Roedd y rhwyg rhwng Gaitskell ac Aneurin Bevan wedi darfod a slogan y Blaid Lafur ar y pryd oedd ‘Law not war’.

Fe ddaeth John Morris yn Aelod Seneddol dros Aberafan yn 1959, gan ddal y sedd honno tan iddo ymddeol yn 2001. Fel aelod o D?’r Cyffredin a Th?’r Arglwyddi bu’n gwasanaethu dan ddeg arweinydd Llafur. Bu’n dal rhai o’r swyddi uchaf yn y Llywodraeth a’r Wrthblaid, fel Twrnai Cyffredinol ac Ysgrifennydd Cymru, yn ogystal â swyddi gweinidogol eraill, a hynny mewn cyfnodau cythryblus, megis rhyfel yr hen Iwgoslafia, pan cafodd y gyfrifoldeb, fel y Twrnai Cyffredinol, o greu seiliau cyfreithiol i ddefnyddio arfau yn Kosovo.

Roedd datganoli yn bwnc llosg iddo, a bu hynny’n waith oes iddo. Fe weithiodd i gyfrannu at greu pensaernïaeth datganoli rhwng 1953 a 1998, ac mae’n nodi bod colli’r bleidlais yn 1979 yn siom enfawr iddo, ac un a gymerodd blynyddoedd mawr i ddod dros. Meddai: “Mae digon wedi ei ysgrifennu ar ddatganoli, a minnau yn arbennig yn fy hunangofiant Fifty years in Politics and the Law ac nid wyf am aildwymo’r cawl. Y neges bwysig yw mai creadigaeth y Blaid Lafur yw datganoli.”

Darllenwch y stori yn llawn yn y Cambrian News, yn siopau dydd Mercher