Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon y DU, Lisa Nandy AS, wedi cadarnhau Delyth Evans fel Cadeirydd newydd S4C.
Dechreuodd Delyth yn y rôl ar Fai 1 2025 gan gymryd yr awenau gan Guto Bebb.
Daw’r cadarnhad wedi i Delyth ymddangos gerbron Pwyllgor Materion Cymreig ar gyfer gwrandawiad cyn penodi ar Ebrill 23.
Mae Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU (DCMS) hefyd wedi cyhoeddi penodi pum aelod newydd i Fwrdd S4C sef Dr Gwenllian Lansdown Davies, Dyfrig Davies, Wyn Innes, Betsan Powys a Catryn Ramasut.
Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Rydym yn falch iawn fod Delyth Evans wedi ymuno â S4C fel ein Cadeirydd newydd. Daw Delyth â chyfoeth o brofiad arweinyddol a llywodraethiant yn ogystal ag angerdd at weld y Gymraeg yn ffynnu ym mhob cwr o’r wlad. Mae hefyd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y sector gynhyrchu i'r sianel ac i economi Cymru.
"Rydw i, a gweddill tîm S4C, yn edrych ymlaen yn eiddgar at gydweithio gyda Delyth wrth i ni ddechrau pennod newydd yn ein hanes. "Hoffwn hefyd groesawu aelodau newydd y Bwrdd. Bydd eu cyfraniad a’u profiadau amrywiol yn sicr yn werthfawr iawn i ni wrth i ni wynebu heriau a chyfleon yr oes ddarlledu newydd.
“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Guto Bebb am ei ymroddiad arbennig dros y flwyddyn ddiwethaf fel ein Cadeirydd dros dro – mae wedi dod â sefydlogrwydd a chadernid doeth i’r rôl.
"Wrth groesawu aelodau newydd, gan gynnwys ail dymor i Denise Lewis Poulton, hoffwn hefyd ddiolch i Chris Jones ac Adele Gritten ar ddiwedd eu tymor fel aelodau Bwrdd am eu cyfraniad i S4C.”