St Peter’s Church

CHRISTMAS Eve services: 4pm, Christingle Service; 11.30pm, midnight mass.Christmas Day: 10am, family communion.Sunday, 27 December: 8am, Holy Communion in English; 9.15am, Cymun Bendigaid; 10.30am, Holy Communion, bilingual.

St Thomas’ Methodist Church

SUNDAY, 27 December, 10.30am, service in English led by Rev James Patron Bell. Crèche and youth group available. Coffee and fellowship after the service.

Merched y Wawr

CYNHALIWYD ein cinio blynyddol ym Mwyty’r Goedwig nos Lun, 9 Tachwedd.Croesawyd ni yn gynnes gan Ann ein llywydd ac offrymwyd gras gan Gillian. Mae bwyty’r Goedwig yn adeilad newydd sbon ac mae Gareth i’w longyfarch yn fawr ar ei fenter gyffrous.Roedd y bwyty yn edrych yn drawiadol iawn a dawn artistig Gareth i’w weld yn amlwg gyda’r goleuadau a’r addurniadau Nadolig lliwgar o gwmpas y lle.Yn dilyn cinio ardderchog cyflwynodd ein Llywydd y wraig wadd, sef Enfys Hatcher o Landdewi Brefi, gynt o bentref Gorsgoch sydd yn Bennaeth yr Adran Gymraeg yn Ysgol Henry Richard Tregaron. Soniodd amdani fel person hynod o weithgar yn ei chymuned, yn enwedig gyda’r Ffermwyr Ifanc — hi yw Brenhines y Mudiad eleni. Testun ei hanerchiad oedd ei henw ac roedd grawando arni yn chwa o awyr iach wrth iddi gymharu lliwiau’r enfys gyda’r gwahanol gyfnodau yn ei bywyd. Soniodd ein bod i gyd yn cael ein mowldio mewn i’n cymeriadau fel clau a chawsom ddarnau yr un ganddi yn cynrychioli lliwiau’r enfys. Bu pawb ohonom wrthi yn mowldio’r clau i ffurfiau gwahanol tra’n gwrando’n astud ar Enfys yn rhannu ei phrofiadau diddorol iawn â ni gan wneud hynny mewn ffordd mor gartrefol yn llawn hiwmor. Fel un oedd wedi tyfu lan yn nhafarn y pentref, sef Cefn Hafod Gorsgoch soniodd ei bod wedi dysgu llawer drwy fod yn rhan o fwrlwm cymdeithas.Diochodd Elin i Enfys yn gynnes am ei chyfraniad cyfoethog i’r noson. Talodd ei gwerthfawrogiad hefyd i Gareth am wledd arbennig. Yn ystod y noson bu pawb yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth ddiddorol wedi ei pharatoi gan Elin, sef dyfalu enwau lleoliadau yn siroedd Ceredigion a Chaerfyrddin trwy gyfrwng lluniau. Plesiwyd Elin yn fawr iawn gan yr ymateb a dyfarnwyd tîm Aerwen, Noeleen a Morwen yn ail a’r Cwmanshis yn gyntaf. Cyn troi tuag adref cawsom gyfarfod busnes. Soniodd ein llywydd mai braf oedd gweld Aerwen gyda ni yn dilyn ei anhwylder a’n bod yn cofio yn gynnes at Gwen yn dilyn llawdriniaeth Eiddig a hefyd Hefina merch Gwyneth yn dilyn damwain yn ei chartref. Cyfeiriodd at y digwyddiadau canlynol: Cwrs Crefft y De ym Mawrth 2016 a Chinio’r Llywydd yn Ngwesty’r Llwyniorwg, Caerfyrddin yn Ebrill 2016. Soniodd hefyd am gystadleuaeth Radi Thomas yn sioe Llanelwedd y flwyddyn nesaf a llongyfarchodd Aerwen ar fod yn aelod o dîm buddugol Ceredigion eleni. Gan fod y Mudiad yn dathlu’r hanner cant yn 2016, daeth cais o’r swyddfa yn holi am hen luniau neu lyfrau lloffion. Dymunodd yn dda i’r aelodau oedd yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth y Cwis Cenedlaethol. Cytunodd Mary a Gillian i ymweld â Ha-fandeg. Enillwyr y raffl arbennig oedd Glesni, Elin ac Eiry Maesyllan a’r enillydd misol oedd Mary. Hefyd mynegodd ein llywydd ei diolch i Gareth gan ei longyfarch a dymuno’n dda iddo i’r dyfodol.

Cylch Cinio

WELE gyfeillion, daeth Daniel ‘nôl i ffau’r llewod unwaith eto. Ble, pryd a phaham? meddech chi! Clwb Rygbi Llanbed oedd y lle ac anodd fyddai darganfod gwell lloches llewod yng Nghymru na Chlwb Rygbi. Cyfarfod olaf Clwb Cinio Llanbed oedd yr achlysur a hynny ar nos Iau, 3 Rhagfyr.Y siaradwraig oedd y foneddiges Lena Daniel a phan welwyd ei henw ar y rhaglen taenwyd ton o ddisgwyliad trosom. Ond pan ddarllenwyd ei thestun, trodd ton yn tsunami. Y testun dengar hwn oedd Hiwmor yn yr ysgol a’r dosbarth. Gan fod pawb yn gyfarwydd â gallu a chymeriad Lena, gwyddem fod noswaith amheuthun yn ein haros.Croesawyd y cwmni gan y llywydd, y Athro Densil Morgan ac, ar ôl cinio Nadolig eithriadol flasus, cyflwynodd ef ein siaradwraig. Hir fu’r ymaros ond gwerth y byd fu’r wobr. Cyn gynted ag y cododd roedd yn amlwg ein bod yng nghwmni un oedd, nid yn unig yn gyfarwydd â, ond yn mwynhau bod o flaen cynulleidfa. Roedd yn gwbl gartrefol ac yn llwyddo i’n diddanu’n llwyr o’r dechrau.Heb flewyn ar ei thafod traddododd hane-sion lu am dynnu coes a drygioni diniwed — nid yn unig yn y dosbarth ond yn ystafell yr athrawon hefyd. Mae’n siwr y byddai llawer o’r disgyblion yn synnu bod athrawesau arwynebol llym yn medru ymddwyn mor ddireidis ac yn mwyn-hau sut hwyl a sbri. Gwibiodd yr amser. Anghofiodd pawb y gwynt a’r glaw. Yr unig siom oedd gweld Lena’n eistedd ac yn cau pen y mwdwl. Deallwyd ein bod wedi clywed un oedd wedi dysgu a disgyblu tra’n defnyddio’r egw-yddor gwell gwên na’r gansen neu chwenych chwerthin na chrasfa!.Diolchwyd iddi’n gynnes gan Aneurin Jones, pan soniodd gymaint braint a phleser oedd ei gweld yn gweithredu yn ei milltir sgwâr sy’n ymestyn o Gribyn i Gellan gan gynnwys tref Llanbed a llawer lle arall.Noswaith bleserus iawn arall yn hanes y Clwb Cinio. Na braf yw clywed a gweld cynhifer o ieuenctid yr ardal yn dod nôl a rhannu eu gallu a’u llwyddiant â ni. Daw un arall y mis nesaf. Edrychwn ymlaen at glywed Ioan Wyn Evans yn sôn am Fywyd yn y Cyfryngau.

Eglwysi Shiloh a Soar

FE DDAETH tyrfa deilwng ynghyd er gwaethaf y tywydd gaeafol i Festri Shiloh ar gyfer cyfarfod y Gymdeithas Ddiwylliadol ar nos Wener, 20 Tachwedd.Bu yna ddifalu i ba gyfeiriad y byddai ein gwestai Eirwen James yn ein tywys ni wrth godi testun Merched y Gerddi. Mi ddaeth yn amlwg o’r dechrau mae ymateb i dlodi ac economi fregus de Ceredigion a Gogledd Sir Gaerfyrdin a orfododd llawer o ferched i chwilio am waith yn y gerddi yn Llundain a hynny yn ystod y cyfnod yr ail ganrif ar bymtheg.Ar fore Llun ar ôl toriad gwawr ac nid ar y Sabbath y byddai’r daith o 211 milltir i Lundain yn cychwyn ac yn aml y byddent yn dilyn llwybrau’r porthmyn.Mi fyddai’r merched yn aml yn gweu sannau wrth gerdded er mwyn cael eu gwerthu yn nes ymlaen yn y brifddinas.Roedd y merched yn cysgu wrth weithio yn y gerddi ar wellt mewn hen adeiladau ac ys-gyboriau heb unrhyw gysur a moethusrwydd.Eu gwaith oedd tyfu a chynaeafu y ffrwythau a’r llysiau er mwyn cael eu gwerthu yn y marchnadoedd lleol a hynny am gyflog o chwech swllt yr wythnos yn unig, sef hanner tal y dynion. Roedd ddim pwrpas protestio am y sefyllfa gan y byddai digon o ferched yn barod i gymryd eu lle.Yn naturiol, mi fyddai’r teuluoedd adref yng Nghymru yn poeni am y merched gan fod llawer ohonynt yn ifanc yn eu ugeiniau cynnar.Gofynnwyd yn aml i weinidogion o’r ardal gan gynnwys mae’n debyg y diwinydd mawr Hywel Harris, wrth dderbyn gwahoddiad i bregethu yn Llundain i adrodd yn ôl i’r teuluoedd sut oedd y merched yn ymdopi â bywyd Llundain ac yn enwedig wrth fynychu sancteiddrwydd y Sabbath.Yn 1846, roedd yna alw cynyddol am adei-ladu tai yn y gerddi yn Llundain ac mi ddaeth y cyfnod rhyfeddol ac anodd yma yn hanes ein merched i ben a ddim cyn pryd.Dyma heb os oedd darn o waith ymchwil diddorol a phwysig iawn gan Eirwen a chyflwynodd yr hanes mewn ffordd gartrefol a didwyll a mynegwyd ein gwerthfawrogiad gan y llywydd, Philip Lodwig.

Festival of winter walks

THE RAMBLERS are extending an invitation to step out and blow away the cobwebs and Christmas excess during the annual free Festival of Winter Walks which runs from 19 December until 3 January 2016. The walks are short and will suit most peo-ple with a reasonable level of fitness.This Saturday, the ramblers will be enjoying a walk on the foot of Mynydd Llanllwni from the Talardd Inn. For festive fun, walkers will be wearing Santa hats and there are prizes for the best decorated rucksack. Following the walk, there is the option of a pub lunch. On Sunday, 27 December, they are getting together with the Rugby Club for a Rugby Ramble around the Lampeter area with the option of a bowl of warming cawl to finish off. On Monday, 28 December, there will be mince pies and mulled wine on offer for a ramble around Cellan and on Saturday, 2 January, they will celebrate the New Year around the Dolaucothi Estate, again with a finish in the pub! Further details from James Williams (01570 480743).Anyone who catches the walking bug can visit www.ramblers.org.uk to find out a host of walks organised by local groups in the area. The Lampeter group doesn’t have a website at the moment (a volunteer is required!) but a walking programme and further details are available.