Aelwyd yr Urdd
DAETH criw o’r aelodau ynghyd i Ysgol Bro Pedr i fwynhau noson yng ngofal Elin Williams ac fe’i croesawyd yn gynnes gan Elan. Roedd wedi paratoi cwis diddorol a hwyliog ar ein cyfer yn cynnwys cwestiynau a thasgau amrywiol. Yn dilyn cystadlu brwd, roedd timau Lisa a Zoe yn gyfartal gyda 44 o farciau ar ddiwedd y nos ond ar y brig roedd criw Elan gyda sgôr o 50. Diolchodd Megan i Elin am baratoi mor drwyadl ar ein cyfer. Ar 15 Mawrth Geinor Medi oedd yn ein diddori. Cafwyd noson yn llawn hwyl a sbri yn cymryd rhan mewn gemau amrywiol yn cynnwys Taten Boeth, Osgoi’r Bêl, Mochyn yn y Canol a Thag Cadwyn. Talwyd diolch i Geinor gan Lowri Aur am noson llawn cyffro.Llongyfarchiadau i’r aelodau ar eu llwyddiant yn Eisteddfod Rhanbarth Ceredigion a gynhali-wyd ym Mhontrhydfendigaid yn ddiweddar.Dyma’r canlyniadau: Deuawd bl 7 - 9 1af Elan a Beca, Deuawd Cerdd Dant 2ail Elan a Beca, Parti deusain bl 9 ac iau 1af, Côr bl 9 ac iau 1af, grwp Dawns Hip-Hop/Stryd/Disgo Bl 10 a dan 19 oed 1af. Hefyd yn cynrychioli Ysgol Bro Pedr cipiodd Elan y wobr gyntaf yn y llefaru Bl 7 i 9, Beca yr 2ail yn yr unawd cerdd dant a Sioned y drydedd wobr yn yr unawd. Pob lwc i bawb yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Fflint ar ddechrau Mehefin. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at ein hymweliad â’r ardal.
Noddfa
CYNHALIWYD oedfa arbennig wedi ei llunio gan Janet yn Noddfa nos Sul, 13 Mawrth yng ngofal yr Ysgol Sul. Mewn pennill a chân bu’r plant a’r bobl ifanc gyda chymorth rhai o’r mamau, yn dathlu Gorfoledd y Pasg a Gwyrth y Gwanwyn. Croe-sawyd pawb gan Sioned a chyhoeddwyd yr emynau gan Grace, Cerys, Sion Ifan, Rhys Tom, Efan, Gwenllian a Ffion. Offrymwyd gweddiau gan Dafydd, Sian Jones a Sian Roberts Jones a’r llefarwyr oedd Delyth a Helen. Cafwyd sgwrs gan Rhys, Osian ac Elan yn llawn hiwmor, ond hefyd yn ein hatgoffa o neges bwysig y Pasg. Mwynhawyd deuawd gan Elan a Sioned ynghyd â datganiadau gan grwpiau canu amrywiol. Roedd y plant wrth eu bodd yn chwarae rhan y dorf wrth ail greu prawf Iesu, gyda Llinos yn portreadu Pilat. Roedd boddhad y gynulleidfa yn amlwg wrth wrando ar y plant ieuengaf, sef Darcey, Tudur, Rhun, Trystan Wyn a Trystan Bryn yn canu a llefaru â phob un yn rhoi o’u gorau glas. Braf oedd gweld Efan Thomas aelod newydd o’r Ysgol Sul yn cymryd rhan am y tro cyntaf ac yn gwneud hynny yn llawn hyder. Gwasanaethwyd wrth yr organ gan Eiry a hyfryd oedd gweld dwy ferch ifanc, sef Sioned ac Elan yn cynorthwyo Llinos a Janet gyda’r cyfeilio am y tro cyntaf ac yn cyflawni eu gwaith yn ardderchog. Ar ddiwedd yr oedfa cafwyd pôs Beiblaidd gan Janet sef enwi disgyblion Iesu. Roedd cardiau â’r enwau arnynt wedi eu cuddio ar hyd a lled y capel a bu’r plant yn gwibio o gwmpas yn llawn cyffro nes dod o hyd iddynt. Yna rhan-nwyd y gynulleidfa i ddau dîm ac ar ôl tipyn o bendroni criw Ronnie oedd ar y brig, ond methwyd dod o hyd i un enw! Peth rhyfedd yw’r cof!! Diolchodd ein gweinidog y Parch Jill Tomos i bawb am eu cyfraniadau graenus, i’r rhieni am eu cefnogaeth, i Derek a John am baratoi’r llwyfan ac yn olaf ond nid y lleiaf i Janet am baratoi a threfnu yn ôl ei harfer.Llongyfarchwyd nifer o’r plant a’r bobl ifanc ar eu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd Rhanbarth Ceredigion a dymunwyd yn dda i Cerys Angharad ac Elan ynghyd â nifer o’r plant a’r bobl ifanc sydd yn aelodau o grwpiau canu a dawnsio Aelwyd Llambed ac Ysgol Bro Pedr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Fflint ymhen deufis.Aeth pawb o’r oedfa wedi derbyn bendith yng nghwmni’r ieuenctid ac yn uchel eu canmoliaeth o’u cyfraniadau.
Dydd Gweddi Byd-Eang y Chwiorydd
CHWIORYDD Cristnogol Ciwba oedd yn gyfrifol am baratoi gwasanaeth Dydd Gweddi Byd-Eang y Chwiorydd eleni, â’r thema oedd ‘Derbyniwch Blant, Derbyniwch Fi’. Cynhaliwyd y gwasanaeth yn Noddfa a chroesawyd pawb yn gynnes gan ein gweinidog, y Parch Jill Tomos. Cymerwyd rhan gan chwiorydd eglwysi Llambed a’r cylch a chyfoethogwyd yr oedfa yn fawr gan anerchiad pwrpasol a diddorol y Parch Athro Densil Morgan yn seiliedig ar y thema. Diolch iddo am ei neges. Gwasanaethwyd wrth yr organ gan Ann Bowen Morgan.
St Peter’s Church
SERVICES on Friday, 1 April: Monthly Hunger Lunch - 12 noon - 1.30pm in the Church Hall. On Sunday, 3 April at 8am there is Holy Communion in English, and at 10.30am, a bilingual Worship Service.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.