Cylch Cinio

DAETH cynulleidfa deilwng o’r gwahanol eglwysi ynghyd i Festri Brondeifi ar nos Iau, 19 Mai, ar gyfer yr oedfa flynyddol Cymorth Cristnogol a hynny yn ystod wythnos y casglu.Estynnodd y Parch Goronwy Evans groeso i bawb a soniodd am y fraint o gael adnabod teulu y gwr gwadd Huw Thomas.Cyfeiriodd Goronwy hefyd at farwolaeth yr annwyl Joan James a fu’n aelod o bwyllgor Cymorth Cristnogol ac yn gefnogol i nifer o achosion da yn yr ardal, gan gynnwys ei gwaith diflino fel ysgrifennydd y pwyllgor Cancr lleol. Bu yna funud o dawelwch fel arwydd o werthfawrogiad am ei bywyd.Cymerodd yr aelodau o’r gwahanol Eglwysi ran flaenllaw yn y gwasanaeth cyn i Twynog Davies gael y cyfle i gyflwyno Huw Thomas - prif-weithredwr Cymorth Cristnogol Cymru.Brodor o Aberystwyth i’w Huw, yn ddisgybl disglair o Ysgol Penweddig cyn cael ei dderbyn i astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen. Penderfynodd wedyn newid cyfeiriad a dod yn ôl i Brifysgol Aberystwyth i wneud gradd uwch mewn Gwleidyddiaeth Rhyngwladol. Drwy gyfrwng lluniau video,cafwyd anerchiad hynod rymus ac effeithiol ganddo wrth gyflei yn bennaf y tlodi enfawr yn Bangladesh, lle mae miloedd o’r trigolion yn byw yng nghysgod llifogydd erchyll. Mae £5 yn medru sicrhau diogelwch i un teulu. Mae gwaith Cymorth Cristnogol yn gwneud gwahaniaeth.Cyn terfynnu’r oedfa arbennig yma, cyfeiriodd Twynog am waith clodwiw a di-flino Percy Evans sydd wedi gorfod rhoi’r gorau i’r gwaith oherwydd anhwyldeb.Cyflawnodd ei ddyletswydd fel trysorydd y gangen leol gyda graen, egni a brwdfrydedd ac mae’n dyled ni yn fawr iddo.Penderfynodd y pwyllgor lleol wneud casgliad ymysg ei gilydd fel rhodd fechan o werthfawrogiad.Ar ddiwedd yr oedfa gofiadwy yma, diolchodd Twynog i bawb a oedd wedi cyfrannu mewn un rhyw fodd at lwyddiant y noson, heb anghofio cyfraniad yr ysgrifennyddes Debra Angel a oedd yn methu bod yn bresennol oherwydd salwch yn y teulu. Gwnaed casgliad o £53 ar ddiwedd yr oedfa gyda diolch eto am eich cyfraniadau a’ch ymdrechion dros nod Cymorth Cristnogol i wneud gwahaniaeth yn y byd creulon yr ydym yn byw ynddo.

St Peter’s Church

SUNDAY, 29 May: 8am Holy Communion in English; 10.30am Morning Service, bilingual.