Llwyddiant Aelwyd yr Urdd

DAETH llwyddiant mawr i ran Aelwyd Llanbedr Pont Steffan yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir y Fflint eleni.Bu’r aelodau yn cymryd rhan mewn pum cystadleuaeth o safon uchel iawn ac yn haeddu canmoliaeth fawr am gyrraedd y llwyfan ym mhob un ohonynt.Cipiodd y parti deusain Bl 9 ac iau yr ail wobr a hefyd y grwp dawnsio hip-hop/stryd/disgo Bl 10 10 a dan 19 oed, a dyfarnwyd y côr Bl 9 ac iau yn drydydd. Cyflawnodd Elan a Beca gamp aruthrol drwy gipio’r ail wobr yng nghystadleuaeth y ddeuawd Bl 9 ac iau a hefyd y drydydd wobr yn y ddeuawd cerdd dant.I goroni’r cyfan, braint a phleser mawr i’r aelodau oedd cymryd rhan mewn seremoni cyflwyno medal John a Ceridwen Hughes i Elin am ei gwaith gwirfoddol clodwiw yn hyfforddi ieuenctid Llambed a’r fro yn y maes llefaru ers blynyddoedd maith. Cafodd Elin syrpreis o weld cynifer o aelodau’r adran a’r aelwyd, aelodau Clwb y Dderi ynghyd â llawer o’i disgyblion wedi dod ynghyd i ganu cân hwyliog newydd sbon er anrhydedd iddi.Cyfansoddwyd yr alaw gan Rhiannon ac awdur y geiriau oedd Gillian Jones.Hefyd bu Lowri Elen a Nest Jenkins yn darllen englynion o waith y Prifardd Ceri Wyn Jones i gyfarch Elin.Ar ddiwedd y seremoni cododd y gynullei-dfa ar ei thraed a bu yna gymeradwyo brwd a bloeddio uchel wrth i bawb ddangos eu parch at Elin a’u gwerthfawrogiad o’i gwasanaeth diflino i blant a ieuenctid ardal Llambed.Mae dyled yr aelodau yn fawr i Rhiannon am hyfforddi’r parti deusain a’r côr ac i Lois am gyfeilio ac mae’n dda gweld yr ymarfer caled wedi dwyn ffrwyth.Dymuna’r swyddogion ddiolch o galon hefyd i’r rhieni am eu parodrwydd i gludo’r aelodau i’r eisteddfod.Gwerthfawrogir eu cefnogaeth yn fawr iawn.Mae’n rhaid talu teyrnged i Llinos am ei gwaith diflino gyda’r trefniadau ac i Janet am ei chymorth hithau.