Shiloh a Soar
MAE’N arferiad, ers blynyddoedd bellach, i’r Gymdeithas Ddiwylliadol fynd am drip blynyddol wedi ei drefnu gan Twynog Davies.Hyfryd oedd cael cwmni rhai ffrindiau o’r tu allan.Roedd yna edrych ymlaen at daith ddiddorol yn ôl yr arfer.Ein cyrchfan gyntaf oedd lle bwyta Glan Usk.Tra’n teithio, mwynhawyd sylwebaeth barhaol gan Twynog am enwogion a mannau o bwys yr ardal.Braf oedd cael torri syched ar ôl codi cynnar.Nawr roedd hi’n amser anelu at yr ail gyrchfan - pentref adnabyd-dus trwy drallod Senghenydd.Dringo’r briffordd, mwynhau golygfeydd Bannau Brycheiniog a gweld rhai pysgotwyr lan hyd ei canol yn pysgota yn y gwahanol gronfeydd.Wrth deithio i lawr Cwm Rhymni, gwelwyd y rhestri o dau teras wedi eu codi ar frig y dyffryn-noedd clos.Ychydig olion oedd ar ôl bellach o’r diwydiant glo a oedd mor an-hepgor i’r ardaloedd hyn.Yn sydyn, roeddem wedi cyr-raedd Senghenydd â’r bws yn aros o flaen cartref arddangosfa i atgoffa’r byd mai dyma’r fangre fwyaf truenus ym meysydd glo Prydain. Yma, mewn eiliad, lladdwyd 439 o löwyr mewn ffrwydriad erchyll ar 14 Hydref 1913.I’n croesawu, oedd y Doethur Elin Jones a cheidwad yr amgueddfa.Gwelsom hanes y drychineb ar ffilm a’r ymdrech i sefydlu cofiant teilwng.Aethom at yr ardd goffa a thawel iawn oedd pawb tra’n sylwi ar y cannoedd llechu ac arnynt enwau, cyfeiriad ac oedran pob un a laddwyd.Rhyw 2000 o droedfeddu dan ein traed, lladdwyd 439 mewn eiliad o uffern - glöwyr o bob oedran rhwng 14 i 70.Wrth feddwl am y teuluoedd yn eu galar, anodd oedd peidio cymharu hyn â lladdfa’r Somme ond yma llafurio ac nid lladd, ennill bywoliaeth ac nid brwydro oedd yn digwydd.Fel tâl am yr aberth, derbyniodd y perthnasau y swm warthus o bum ceiniog a dimau - gwerth cw-ningen am golli gwr neu blentyn.Roedd tawelwch ac erchylltra’r sefyllfa yn ein atgoffa pa mor ffodus mae arnom ni.Ein cyrchfaen nesaf oedd Maenordy Llangaiach. Dyna wahaniaeth awyrgylch.Yma roedd awyr las, caeau gwyrddion ac arwyddion moethus-rwydd. Roedd yna bâr ifanc newydd briodi a chanwyd corn y bws i ddymuno rhwydd hynt iddynt.Syfyrdanol oedd yr ymweliad â’r Maenordy.Croesawyd ni yn wresog cyn ein tywys i’r gwahanol ystafelloedd.Yno clywsom hanes y lle gan weision a morwynion, nid yn unig wedi gwisgo yn null cyfnod 1645, ond hefyd yn siarad yn iaith yr amser.Hynod ddiddorol oedd clywed am hen arferion ac yn enwedig am ofergoelion y cyfnod.Nid ffeithiau yn unig gawsom gan y rhain, ond naws yr amser a’r oes yn ogystal.Clywsom hanesion o’r gweliau i’r gegin ac am fywyd y meistri a’r morwynion.Hudolus i’r cwmni cyfan fu’r ymweliad hwn - dysgu a diddori law yn llaw.Ond roedd yn amser bwrw tua thre a dychwelyd heibio Cwmt-wrch, Cwmllynfell a Brynamman, ardal a oedd yn adnabyddus i lawer o’r parti.Diolch i John Phillips am rai o hanesion o gymeriadau a diwyl-liant y fro.Dros y Mynydd Du o Frynamman, yn ôl cân Bois y Blackboard, oedd rhan olaf y daith, cyn cyrraedd Goose and Cuckoo yn Llangadog a chael croeso cynnes, gwasanaeth gwych a phryd ardderchog o fwyd. Diolchodd Philip Lodwig i Twynog am yr holl drefniadau trylwyr, am gwmi da ac am ddiwrnod a erys yn hir yn y cof.
St Peter’s Church
SATURDAY, 16 July: 10am, annual summer fair in the Church Hall.Sunday, 17 July: 8am, Holy Communion in English; 10.30am Morning Worship - Bilingual.



.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.