Sioe Mari Jones

BYDD cyfle arbennig i blant ardal Llambed rhwng chwech a 11 oed i fwynhau gweld sioe fyw o hanes ryfeddol y ferch ifanc o Lanfihangel y Pennant, yn Sir Feirionnydd a gerddodd 18 milltir i’r Bala i brynu Beibl gan Thomas Charles.

Gofynnir i’r plant gyfrannu £1 a’r oedolion £2 at y gost o lwyfannu’r sioe a bydd Eglwys Shiloh yn gwneud y gwahaniaeth.

Dyma un o gyfres o sioeau gan Gwmni Eleri Twynog ‘Mewn Cymeriad’ sydd yn teithio Gymru gyfan gyda’r bwriad o ddod â hanes am gymeriadau’r gorffennol yn fyw i ni ac yn enwedig i’n plant. Am fwy o fanylion, cysylltwch gyda Twynog Davies ar 01570 422880.

St Peter’s Church

FRIDAY, 2 September: Lunch in aid of Third World Charities, 12pm to 1.30pm in the church hall. Sunday, 4 September: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, Morning Worship (bilingual).

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]