Mae cylchgrawn cerddoriaeth gyfoes Y Selar wedi cyhoeddi lein-yp digwyddiad blynyddol Gwobrau’r Selar eleni.
Am y tro cyntaf, mae’r gwobrau’n cael eu cynnal dros ddwy noson yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, sef nos Wener, 15 Chwefror a nos Sadwrn, 16 Chwefror.
Ond yr hyn sy’n gyson ydy bod y lein-yp yn cynnwys llwyth o artistiaid prysura’ a mwyaf llwyddiannus y flwyddyn ddiwethaf.
Gyda’r digwyddiad yn cael ei ymestyn i’r nos Wener am y tro cyntaf, mae lein-yp cryf ar gyfer noson agoriadol y penwythnos, 15 Chwefror.
Yr enw cyntaf ydy efallai band prysuraf 2018, ac enillwyr gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd, Mellt.
Record hir gyntaf y grwp, Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc, oedd yr unig albwm Gymraeg i gyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2018.
Band arall sydd wedi mynd o nerth i nerth yn 2018 wrth hyrwyddo eu halbwm cyntaf, gan wir sefydlu eu hunain fel un o fandiau byw gorau’r wlad ydy Y Cledrau, a fydd hefyd yn perfformio.
Un arall o fandiau mwyaf Cymru ydy HMS Morris sydd wedi cael blwyddyn brysur o gigio ledled y wlad a thu hwnt, gan hefyd ryddhau eu halbwm diweddaraf, Inspirational Talks, ym mis Medi.
Mae’n debyg mai stori newyddion fwyaf cerddoriaeth gyfoes yn 2018 oedd hwnnw am drac ‘Gwenwyn’ gan Alffa yn cael ei ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify – y trac Cymraeg cyntaf i gyflawni’r gamp. Roedd yn amhosib hepgor y ddeuawd, sydd hefyd wedi eu cynnwys ar gynllun Gorwelion, o lein-yp y Gwobrau.
Y cerddor ifanc cyffrous o Ddolgellau, Lewys, sy’n cwblhau lein-yp nos Wener. Ag yntau wedi rhyddhau tair sengl wych ar label Côsh, yn ogystal â sefydlu ei fand byw yn 2018, mae’n enw sy’n werth ei wylio yn 2019. Mae fideo Gwres gan Lewys ar restr fer categori Fideo Cerddoriaeth Gorau (a gyhoeddwyd nos Lun, 7 Ionawr).
Am y stori lawn, gwelwch bapur wythnos yma







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.