Cymdeithas Cyfeillio

CYNHELIR Cinio Santes Dwynwen, Cymdeithas Cyfeillio Llandysul a’r Fro ar nos Wener, 22 Ionawr, yng Ngwesty’r Porth am 7.30yh. Gwestai gwadd fydd Fflur Dafydd. Croeso cynnes i bawb; enwau i Wenna.

Gardening weekend

THE GARDENING weekend will take place at Neuadd Tysul from Friday, 19 February, until Sunday, 22 February. Church ServicesSUNDAY, 24 January: Llandysul, 8am, Communion; Llangynllo, 9.30am, Communion; Llandysul, 11am, Cymun; Bangor Teifi, 2pm, Cymun.Wednesday: Llandysul, 10.30am, Communion. Sunday, 31 January: Tregroes Church Parish United Service to celebrate St Ffraid, 10.30am.

Gwyl Aberbanc

DDYDD Sul, 31 Ionawr, yn neuadd eglwys Bangor Teifi.

Gwyl Gorawl

CYFARFOD yn neuadd eglwys Llandysul am 7yh ar nos Fawrth, 2 Chwefror. Sioe LlandsyulCYNHALIWYD y cyfarfod blynyddol ar nos Fawrth yn y Porth a da oedd gweld y ffyddloniaid wedi troi i fyny ac yn barod bob amser i gefnogi’r sioe. Bydd y swyddogion yn aros fel cynt am eleni, gyda Breian a Dwynwen Teifi yn lywyddion.

Calan Hen

CAFWYD gwyl arbennig eleni eto yn eglwys Llandysul, gyda 10 eglwys wedi dod ynghyd â dros 200 o bobl ar hyd y dydd wedi dod i ddathlu’r Hen Galan, drwy adrodd pwnc, ateb cwestiynau a chanu.Diolch i bawb a fu’n cymryd rhan ac am bob cefnogaeth i’r diwrnod arbennig sydd wedi bod yn mynd ers 1833 ac yn unigryw i Landysul ac eglwysi Dyffryn Teifi. Roedd pob eglwys wedi paratoi eu gwaith yn arbennig o dda.

Cymrodorion

CYFARFOD nesaf nos Fercher, 20 Ionawr, yn Neuadd Llandysul am 7.30yh, gyda Gethin Mat-thews o Abertawe yn sôn am Cofebau’r Rhyfel Mawr yng Nghapeli Cymru.Y llywydd fydd y Dr John Davies.

Clwb Hanes

BYDD y clwb ar nos Fercher olaf o’r mis yn Neuadd Tysul.

CyD

THE MONTHLY meeting will be on the third Thursday of every month when learners and Welsh speakers will meet at the Porth for a chat at 7.45pm.

Cerddorol

DAETH llwyddiant i’r canlynol mewn arholiadau cerddorol yn ddiweddar, gan sicrhau marciau rhagorol: Gradd 1: Theori i Sara Jones, Waungilwen a Fflur Williams, Blaencillech; a Gradd 3 Canu i Megan Evans, Castellnewydd Emlyn a Fflur Evans, Blaencillech.