Church Services

SUNDAY, 28 February: Llandysul, 8am, Communion; 11am, no service, as there is a Sul Cenedlaethol service at 10am in Seion Chapel; Llangynllo, 9.30am, communion; Bangor Teifi, 2pm.Wednesday: Llandysul, 10.30am, communion.Thursday: Church hall, 7.30pm, Lenten prayer groups.There will be a St David’s Day celebration and Welsh tea on Saturday, 5 March in Tregroes at 11am.

Cylch Cinio

CYNHALIWYD cyfarfod mis Chwefror ar nos Lun, 1 Chwefror, yn ôl yr arfer, yng Ngwesty’r Porth. Estynnodd y cadeirydd, Keith Evans groeso cynnes i bawb, gan nodi ei falchder bod 43 o aelodau yn bresennol. Croesawyd Iestyn ap Dafydd yn aelod newydd i’r Cylch. Traddod-wyd y gras gan Arwyn Pierce. Cyflwynwyd Michael Davies, pennaeth Ysgol y Preseli, ein gwr gwadd am y noson, gan y cadeirydd. Mwynhawyd y noson yn fawr iawn wrth iddo ein diddori gydag amrywiol straeon o’i brofi-adau yn ystod ei yrfa ac ym myd chwaraeon, yn ogystal ag am y bobl a fu yn ddylanwad arno ar hyd y ffordd. Diolchwyd iddo gan yr is-gadeiry-dd, Aled Jones. Derbyniwyd mantolen ariannol y Cylch am y flwyddyn 2015 a mynegwyd ein gwerthfawrogiad i Eirwyn Harries am ei waith di-flino fel trysorydd. Cytunwyd rhoi cyfraniad ariannol tuag at y Gyngerdd Brethyn Cartref a fydd yn cael ei gynnal yn Neuadd Tysul ym mis Mawrth, eleni dan nawdd y Pwll Nofio, a gwnaed apêl am gynrychiolaeth o’r Cylch i fynychu’r cyfarfod ynglyn â chroesawi’r Wyl Gerdd Dant i Landysul. Cynhelir ein cyfarfod nesaf nos Lun, 7 Mawrth. Y siaradwr gwadd bryd hynny fydd y Prifardd Idris Reynolds, Brynhoffnant.

Merched Cylch Clettwr

THE NEXT meeting will be cawl at Tresi Aur on 2 March at 7.30pm.

WI

THE MONTHLY meeting was held on 4 February at the Tysul Hall.The entertainment for the evening was given by Marion Bryant, Scout leader and seven of her young scouts who regaled the group with stories of their trip to the 23rd jamboree in Japan and to the jamborette in Holland. The vote of thanks was given by Judith Roberts. The competition winner was Paula Norris in first place, second, Sue Darnbrook and third, Judith Roberts. The tea hostesses were Anne Cox, Shirley Cox, Jenny Cooper and Sue Darnbrook.The next meeting will be held on 3 March at the Tysul Hall and the entertainment for the evening will be a talk by Graham Watkins on his journey from novice wordsmith to published author.

Merched y Wawr

CROESAWODD Nesta yr aelodau i gyfarfod Chwefror yn y Pwerdy a ddechreuwyd y noson drwy ganu cân y mudiad. Ein gwraig wadd am y noson oess Marian Fenner, neu Matron o Pobol y Cwm. Mae yn awr yn gweithio yn adran coluro Estee Lauder yn siop Boots yng Nghaerfyrddin ynghyd â Prynhawn Da ar S4C ag hefyd pan ddaw y galw yn troi yn ôl i actio. Bu yn ein cynghori sut i edrych a gofalu am y croen ynghyd â coluro, ‘roedd hefyd wedi dod a’i hunangofiant W Matron. Cafwyd noson ysgafn, hwylus yn ei chwmni. Roedd y raffl yn roddedig gan Pat a’r enillydd oedd Olive ag ‘roedd y te yng ngofal Pat, Emma a Hazel. Mis nesaf ‘rydym yn gadael y Pwerdy ac yn teithio i Cwmrhydneuadd gyda cwmni’r gwyr am ein cinio blynyddol a’r gwr gwadd am y noson yw’r Parch Eirian Lewis a fydd yn rhoi hanes ei daith i Patagonia ar nos Wener, 11 Mawrth.

Merched Glannau Teifi

CROESAWODD Mabel yr aelodau i Westy’r Porth, nos Lun, 8 Chwefror. Ein gwestai am y noson oedd dwy o ferched y chweched Ysgol Dyffryn Teifi, sef Sioned Bryant a Nia Jardine.Roedd y ddwy gyda dwy arall o adran sgowtiaid y pentref wedi cael eu dewis i Miri y Sgowtiaid byd eang yn Siapan. Cawsom yr hanes ganddynt sut iddynt gael eu dewis i fynd ac am eu profiad allan yno. Diolchwyd i’r ddwy gan Rhian. Mis nesaf rydym yn gadael Gwesty’r Porth ac yn mynd am noson o gawl i Dafarn Talardd.Yno i’n diddani bydd y tafarnwr ei hun, sef John Jones.

History Society

THE next meeting of Cymdeithas Hanes Lleol Llandysul a’r Fro History Society - Origins of the Cenotaph with Dr Lester Masonwill, be held on Wednesday, 24 February at 7.15pm at Neuadd Tysul.

Cwrdd Gweddi Merched y Byd

BYDD y gwasanaeth yma ar nos Wener, 4 Mawrth yng Nghapel Seion am 6yh. Croeso cynnes i chi i ymuno yn y gweddiau.