Christmas Evans

NOS Sul, 19 Mehefin cafwyd noson hyfryd yn Hen Gapel Llwynrhydowen yng nghwmni cast Christmas Evans a berfformiodd unwaith eto hanes y pregethwr enwog o Dregroes.Da oedd gweld y capel yn llawn a chroesawyd pawb gan y Cyng Peter Davies ac ef gyflwynodd y llywyddion sef Mr a Mrs Bundock, y ddau â chysylltiadau agos â thaith Christmas Evans. Diolch i bawb a ddaeth i glywed hanes diddorol y pregethwr Bedyddwyr mawr o Dregroes a deithiodd drwy Gymru gan argyhoeddi sut gymaint ar ei daith.Yn dilyn y perfformiad mae yna dvd ar werth am £5. Os am archebu, ffoniwch Beth ar 07901 716957.

Church services

SUNDAY, 3 July - Llandysul: 8am Cymun, 11am Family service, 5pm Carnival community singing.Friday, 1 July - Strawberries and cream at Tresi Aur at 7pm.