Clwb Croeso
THE SPEAKER this month was Cyril Baker of The Jewellery House, Aberystwyth, who gave a talk on Welsh gold.It was an interesting insight into the history of gold mining in Wales from Roman times until the last mine closed in the late 1990s and also into the demand for Welsh gold. After his talk he examined jewellery brought by members, briefly giving the background to each piece and its present insurance value.Thanks was given to Cyril for his excellent and enthusiastic talk.Members would also like to thank the community council for their donation to the club which is greatly appreciated.The next meeting is on Wednes-day, 13 April when members are invited to bring an interesting or unusual item along for discussion by the group. Everyone is wel-come.
Merched y Wawr
PLESER o’r mwyaf oedd croesawu Tegwen Morris, cyfarwyddwraig genedlaethol Merched y Wawr, i’n cyfarfod ym mis Mawrth.Rhoddwyd gwahoddiad hefyd i aelodau canghennau Llanon a Llanilar.Roedd Tegwen wedi paratoi trysorfa o luniau i’w rhannu trwy gyfrwng ei gliniadur a’r sgrîn ar wal y neuadd.Ond nid cyfres o luniau yn unig oedd yma.Roedd pob llun yn fachyn i hongian stori wrtho, ac roedd pob stori yn sôn am ddigwyddiad neu achlysur diddorol. Cawsom hanes llwyddiant ymgyrchoedd cenedlaethol y mudiad a’r sioeau lle bu ei stondin yn amlwg, yn ogystal â chyfarfodydd ac ymdrechion lleol.Mae Tegwen yn siaradwraig fyrlymus, llawn hiwmor, a’i brwd-frydedd dros y mudiad yn ei holl agweddau yn heintus. Anogodd yr aelodau i dynnu digon o luniau o’u gweithgareddau lleol er mwyn bwydo gwefan a chyfryngau cyfathrebu cymdeithasol tebyg. Trefnwyr y noson oedd Carol Tandy a Beryl Jones, a hwy hefyd gyfrannodd y raffl a threfnu bod gwledd o fwyd o bob math ar gyfer ein gwesteion o ganghennau eraill.Diolchwyd i’r wraig wadd am noson i’w chofio gan Beryl Jones, a hefyd Ada Evans o gangen Llanilar.Enillwyr y raffl oedd Mary Harvey a Jean Evans, y ddwy o Lanilar.Bydd y cyfarfod nesaf ar 11 Ebrill pan fyddwn yn rhoi cynnig ar ddawnsio Swmba gyda Heulwen Lloyd o Lanon.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.