Merched y Wawr

AR 9 MAI aeth 20 o Ferched y Wawr, sef pob aelod o’r gangen, i ymweld â Chastell Aberteifi. Trefnwyr y noson oedd Ann Ellis ac Ellen Rees. Cawsom ein cyfarch wrth y drws gan Non Lewis a hi fu’n ein tywys o amgylch a rhoi hanes y lle i ni. Oherwydd y glaw trwm y tu allan, bu’n rhaid cyfyngu’n hymweliad i’r tu mewn yn unig, er i ni gael ein cyfeirio i edrych ar rai pethau diddorol tu allan drwy’r ffenestri. Roedd gan Non wybodaeth fanwl am y castell o’r dechrau yn y 12fed ganrif, trwy’r brwydro, y newid perch-nogaeth gyson rhwng y Cymry a’r Normaniaid, y dymchwel a’r ail-godi, y teuluoedd bonedd fu’n byw ynddo, a’r addasu, ymlaen at gyfnod y perchennog olaf, sef Miss Wood, a’r dadfeilio trychinebus pan aeth y lle a’i ben iddo. Ond daeth tro ar fyd eto oherwydd dycnwch ymdrechion lleol, a grant sylweddol, llwyddwyd i atgyweirio ac adnewyddu’r ty ac ail-godi muriau ac adeiladu estyniad modern i fod yn fwyty safonol fydd yn dod ag incwm i helpu cynnal y safle. Ni allem fod wedi cael gwell tywysydd gan fod gwybodaeth Non yn ddi-ben-draw â’i dull o’i gyflwyno yn sicrhau fod pob un yn medru ei chlywed. Diolchwyd iddi gan Ellen Rees. Draw â ni wedyn i’r bwyty am swper, a gwnaed y diolchiadau yno gan Ann Ellis.Cafwyd cyfarfod yn dilyn y bwyd ac etholwyd swyddogion ar gyfer 2016/17. Cydlynydd: Carol Tandy; cofnodydd: Wendy Lloyd; trysorydd: Delyth Lewis; gohebyddion y wasg: Delyth Lewis a Mary Williams; Dosbarthwraig y Wawr: Mary Williams.Llongyfarchwyd Buddug Jones ar ddod yn famgu unwaith eto, gydag wyr yn Brynchwyth.