Madam,
Sefydlwyd Cymdeithas Waldo naw mlynedd yn ôl yn y flwyddyn 2010 gyda’r amcanion i ddiogelu’r cof am waith a bywyd Waldo fel bardd, Crynwr a heddychwr.
Hyrwyddo cyfraniad Waldo at lên a diwylliant Cymru trwy ddehongli a chreu ymwybyddiaeth o’i waith. Cydnabod a hyrwyddo cyfraniad Waldo i heddychiaeth.
Dros y naw blynedd diwethaf rydym wedi cynnal darlith flynyddol gyda Emyr Llywelyn, Mererid Hopwood, Robert Rhys, T James Jones, Gareth Miles, Aled Gwyn, Guto Prys ap Gwynfor, M Wynn Thomas, Ieuan Wyn, Jason Walford Davies a Rowan Williams.
Hefyd rydym wedi gosod placiau yn Ysgol Botwnnog, Rhosaeron – cartref teulu Waldo, Ar weun Casmael, Llangernyw, Aberystwyth, Capel Millin, Elm Cottage, Kimbolton a Rhoscrawdder ger Penfro.
Byddwn yn dadorchuddio plac gwybodaeth am fywyd a gwaith Waldo yn Oriel y Parc, Tyddewi nos Wener, Medi 27 eleni. Yr un noson bydd darlith gan Emyr Llew a byddwn yn cyhoeddi argraffiad newydd o’r gyfrol ‘Cerddi’r Plant’, y gyfrol o farddoniaeth i blant a gyfansoddwyd gan Waldo ar y cyd ag E. Llwyd Williams.
Cyhoeddwyd taflen ‘Taith Waldo’ . Mae’r daflen yn cyfeirio at yr holl lefydd hynny sy’n berthnasol i hanes bywyd Waldo.
Comisiynwyd y cerflunydd John Meirion Morris i greu penddelw efydd o Waldo .
A dyma ddod at bwrpas y llythyr hwn. Mae hi’n fwriad gan Gymdeithas Waldo gynnal ocsiwn ‘ Llên a chelf a llun a chân’ (cyn y Nadolig eleni) a gwerthu lluniau a llawysgrifau i godi arian i’r Gymdeithas i’n galluogi i barhau ar gwaith i ddiogelu’r cof am waith a bywyd Waldo.
Gofynnaf yn garedig i arlunwyr am lun, beirdd un o’ch cerddi, awduron am ddechrau un o’u llyfrau, a chyfansoddwyr caneuon am un gân yn eich llawysgrifen a’i llofnodi. Buaswn yn ddiolchgar felly petaech yn gweld y ffordd yn glir i gyfrannu at y fenter deilwng hon ac anfon eich cyfraniad ataf.
Gan ddiolch i chi ymlaen llaw ac ar ran Cymdeithas Waldo.
Yn gywir, Alun Ifans, Cymdeithas Waldo.
Have your say on the local issues affecting you - email [email protected] or join in the conversation on our Facebook page






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.