Daeth yr ail dydd Sadwrn o Chwefror unwaith eto gyda Eisteddfod flynyddol Abergynolwyn yn ei gôl.

Bu’r tywydd yn llai bygythiol eleni am i’r cawodydd eira ymweld wythnos yn gynt! Braf oedd cael croesawu’r beirniad rhai yn lleol i feirniadu’r gwaith cartref ac eraill fel Arfon William, Cwmtirmynach (cerdd); Eirian Jones, Carrog (Llyfaru a Llen); yn brysur iawn rhwng y ddau gyfarfod yn lleoli’r cystadleuwyr talentog.

Roedd Mr Tudur Joes FRCO Tywyn yn ôl ei arfer yn cyfeilio mor fendigedig i’r unawdwyr drwy’r dydd.

Roedd presenoldeb Ysgol Craig y Deryn yn amlwg yn cyfarfod y prynhawn gyda’r holl swmperi coch yn cymryd rhan.

Llywydd y dydd oedd Rosaline Powell o’r Henrde yn Abergynolwyn a cawsom sgwrs difyr o’i hanes.

Cofiodd yn anrhydeddus iawn am goffra’r eisteddfod.

Diolch i’r Cyng Beth Lawton ac Edward Tudor Jones am arwain cyfarfod y prynhawn mor drefnus.

Y plant a hwythau eu dau yn deall eu gilydd i’r dim, ac i Elwyn Evans am ddangos ei ddylanwad yng nghyfarfod yr hwyr.

Mae’r cyd-ysgrifennyddion Sheila Patterson a Gwen Williams yn gaeth i’w dyletswyddau drwy’r flwyddyn, a dyna yw hanes Robert Jones, (trysorydd) manwl iawn gyda Gweniona Pugh (cadeirydd) ac Elwyn Evans (is-gadeirydd) yn mynegi barn.

Gwerthfawrogir pob cefnogaeth i’r ‘Steddfod a mawr yw dyled y pwyllgor i’r rhai hynny sydd mor gefnogol i’w hymdrechion flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Bydd y canlyniadau i gyd yn y papur yr wythnos hon, allan dydd Iau