CYNHALIWYD Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid dros y penwythnos.

Huw Dylan Owen o Dreforys, Abertawe oedd bardd buddugol y Gadair, ar y testun ‘Yr Arloeswr’, sef cerdd fawl i’r canwr o Solfa, Meic Stevens.

Mae Huw yn ddod o Ddolgellau yn wreiddiol â’i fam Eurwen o Abermeurig, ger Talsarn a’i dad Tecwyn wedi ennill y gadair ym Mhontrhydfendigaid yn 2006.

Yn briod â Bethan ac yn dad i Heledd a Mirain, mae’n therapydd galwedigaethol, yn gerddor gwerin ar y mandolin a’r banjo, bu’n aelod o’r grwp Gwerinos ac ambell grwp arall.

Mae’n weithgar iawn gyda Menter Iaith Abertawe, Ty Tawe a sefydliadau eraill tebyg yn Abertawe.

Hannah Roberts o Gaerdydd oedd enillydd y Goron, ar y testun ‘Y Ffin’. Oedd ei c

erdd yn syml ac effeithiol sy’n cyffelybu i gêm nadroedd ac ysgolion. Mae’n dod o Drebo’th ger Abertawe, pentre Gwyrosydd, awdur Calon Lân.

Dysgai yn y Barri am 13 mlynedd, yna yn ymuno â Chwmni Theatr Cymru ym Mangor am dwy flynedd cyn mynd nôl i Gaerdydd i weithio yn Adran Gyflwyno’r BBC yn darllen newyddion ar Radio Cymru a Radio Wales am bum mlynedd, yna i adran deitlo S4C.

Am mwy o lluniau o’r eisteddfod, gweler papur yr wythnos yma, yn siopiau yfory